Ffurflen Dysgwyr


Bydd yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn cael ei chadw a’i defnyddio’n unol â’r Deddf Diogelu Data 1998. O dan Ddeddf Diogelu Data, mae gennych yr hawl i gael mynediad at y data amdanoch a gedwir gan Lywodraeth Cymru, ac i gywiro’r wybodaeth yn y dyfodol.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn un egluro sut y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddion a phwy fydd yn cael mynediad ati. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei hanfon i Lywodraeth Cymru, ac mewn rhai achosion, i bartïon sy’n gweithio are ei rhan.

Gallai’r wybodaeth hon gael ei defnyddio i fonitro a pharatoi adroddiadau ar nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn prosiectau. Gallai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ei defnyddio at ddibenion ariannu, cynllunio, monitro ac arolygu dysgu, ac i gynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol. Mae’n bosibl y bydd sefydliadau ymchwil gymdeithasol cymeradwy yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i wneud ymchwil, i baratoi dadansoddiadau, ac i fonitro cyfle cyfartal. Gallai’r wybodaeth sy’n cael ei choladu gael ei defnyddio gan archwilwyr ac i gysylltu eich cofnodion gyda ffynonellau data eraill, er mwyn gwerthuso effeithiau’r prosiect, nodi’r effeithiau ar y bobl sydd wedi cymryd rhan, a gwneud ymchwil arall.

Ni fydd y sefydliadau ymchwil ond yn cysylltu â sampl o unigolion. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn ichi sôn am eich profiad o’r prosiect fel rhan o ymchwil/gwerthusiad, bydd diben y cyfweliad neu’r arolwg yn cael ei egluro wrthych a byddwch yn cael dewis a ydych am gymryd rhan ai peidio. Dim ond at ddibenion ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio, a hynny’n unol â’r Ddeddf Diogelu Data. Bydd y sefydliadau ymchwil yn dileu eich manylion cyswllt ar ôl cwblhau’r gwaith ymchwil cymeradwy hwn.

Os oes gennych unrhyw bryder ynglyn â’r ffurflen hon, cysylltwch â’r cynrychiolydd CDdUC os gwelwch yn dda.



    Twitter

    Digwyddiadau i ddod

    NUJ Training Cymru Wales