Mentora
Gweld y Cyrsiau

Coetsio Proffesiynol a Mentora

Ydych chi angen mentora neu goetsio proffesiynol?

Mae rhai o’n cyfranogwyr sydd wedi cwblhau ein rhaglen hyfforddiant Mentora a Choetsio Proffesiynol yn llwyddiannus dros y 4 blynedd diwethaf yn cynnig sesiynau coestio a mentora fel y gallant gynnal eu sgiliau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael tystysgrif cymeradwyo ILM ar ôl cwblhau’r rhaglen.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau nifer o oriau o coetsio neu fentora, felly pan fyddwn yn rhedeg y rhaglen byddant yn edrych am bobl y gallant eu coetsio neu fentora at ddibenion y cwrs (am ddim).

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich coetsio neu fentora cysylltwch ag Anna Wynn Roberts: [email protected]

Oes gennych chi rôl coetsio proffesiynol neu fentora?

Os oes, rydym yn cynnal cyrsiau diweddaru sgiliau gyda’r nos yn chwarterol rhwng 5:15pm a 7:30pm ac rydym yn hapus i ddarparu prawf o bresenoldeb ar gyfer eich portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Byddwch yn dod o hyd i ddyddiadau yn y dyfodol ar ein Calendr Cyrsiau.

  • Twitter