Gwnewch gwpanaid o de, ymunwch â ni a diweddarwch eich sgiliau digidol…mewn awr!
Beth yw cynnwys y cwrs?
Mae angen ychydig o ffanffer ar Canva … dyma’r offeryn dylunio am ddim gorau ar gyfer y rheini nad ydynt yn ddylunwyr, erioed! (ym marn ostyngedig yr hyfforddwr Dan Mason)
Yn y sesiwn Sgiliau Gloi Gwener hon, byddwn yn profi Canva i greu darluniau sy’n atyniadol ar y cyfryngau cymdeithasol, clipiau wedi’u hanimeiddio, crynoluniau YouTube a mwy … ac mae mwy! Cyflwynodd Canva ychwanegiadau newydd yn ddiweddar i’w becyn cymorth, gan gynnwys gwefannau a dogfennau. Felly, byddwch yn barod i ganfod pam mae cynifer o lunwyr yn caru Canva, a pham mae mwy o resymau bellach hyd yn oed dros ei gael ar eich gliniadur neu’ch ffôn symudol.
I bwy y mae’r cwrs?
Unrhyw un sydd angen ffordd syml o ddylunio rhywbeth … efallai bod Canva yn newydd i chi, neu rydych yn ddefnyddwr sylfaenol sy’n dymuno archwilio elfennau amrywiol yr offeryn hwn, sy’n ffefryn.
Pa gyfarpar fydd ei angen arnaf?
Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt dibynadwy â’r rhyngrwyd a mynediad i Zoom. Dylai’r cyfranogwyr fynd i canva.com a chreu cyfrif newydd, os nad oes ganddynt un eisoes, cyn y gweithdy. Hefyd, lawrlwythwch yr ap Canva am ddim ar gyfer dyfeisiau iOS neu Android.