Gwnewch gwpanaid o de, ymunwch â ni a diweddarwch eich sgiliau digidol…mewn awr!
Beth yw cynnwys y cwrs?
A oeddech chi’n gwybod mai dim ond deg brawddeg sydd yn Araith Gettysburg? Dim ond ychydig dros ddwy funud yw hynny. Ac nid oedd Lincoln yn cystadlu gyda ffonau symudol a newyddion treigl. Mewn 60 eiliad, gallwch gael effaith wirioneddol gyda’r cyflwyniad cywir – ac mewn byd o ormodedd o wybodaeth, mae’n bwysig gwneud hynny. Byddwn yn edrych ar sut i wneud hyn – pa un a yw’n gyflwyniad cychwynnol, neu’n agoriad newydd i gyflwyniad, bydd digon o awgrymiadau defnyddiol.
I bwy y mae’r cwrs?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella eu harddull cyfathrebu, pa un a yw hynny’n waith ysgrifenedig, yn areithiau neu’n gyflwyniadau.
Pa gyfarpar fydd ei angen arnaf?
Nid oes angen unrhyw gyfarpar arbennig, ond anogir y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau.