gyda Dan Mason
Beth yw cynnwys y cwrs?
Mae gweithwyr llawrydd creadigol oll yn wynebu’r un her: gormod i’w wneud a dim digon o amser ar gyfer ei wneud. A deud y gwir, nid dim ond gweithwyr llawlyfr sy’n teimlo felly, felly mae’r cwrs Dydd Gwener Sgiliau Cyflym hwn ar gyfer yr holl weithwyr proffesiynol creadigol sydd o dan bwysau amser! Newyddiadurwyr, gweithwyr Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnatwyr, cynrychiolwyr cyfathrebu undebau, blogwyr … mae croeso i chi oll.
Mae’r sesiwn hon yn chwilota’n ddwfn i mewn i becyn cymorth yr hyfforddwr Dan Mason, sy’n newid o hyd, i amlygu’r offer am ddim profedig sy’n cynhyrchu canlyniadau am y nesaf peth i ddim. Ystyriwch y cwrs fel bwydlen flasu ddigidol.
Gan ddibynnu ar yr amser sydd ar gael, byddwn yn cynnwys
- Darllen. Offer ar gyfer dilyn pynciau arbenigol a ffynonellau ar-lein
- Ysgrifennu. Offer ar gyfer ysgrifennu, gwirio a rhannu
- Chwilio. Ffynonellau da ar gyfer darnau fideo, cerddoriaeth, ffontiau, eiconau a mwy am ddim
- Creu. Offer ar gyfer troi syniadau’n negeseuon, fideos a sain ar y cyfryngau cymdeithasol
Bydd pecyn cymorth ar-lein gyda dolenni’n cael ei rannu ar y diwrnod.
I bwy y mae’r cwrs?
Llunwyr cynnwys o bob math a chyda phob lefel o brofiad.
Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?
Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt dibynadwy â’r rhyngrwyd a mynediad i Zoom.