Bydd y gweminar hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o weithio fel gweithiwr llawrydd – o’r rheini sy’n newydd i’r diwydiant neu sy’n ystyried mynd yn weithwyr llawrydd, i’r rhieni a fu’n gweithio yn y maes ers nifer o flynyddoedd – ac yn eich helpu i feithrin gwytnwch ac effeithlonrwydd yn eich gwaith. Bydd hefyd yn mynd i’r afael â’r newidiadau cyflym a’r heriau mewn gwaith llawrydd, ac yn edrych ar sut y gellid troi heriau, gan gynnwys y pandemig Coronafeirws, yn gyfleoedd.
Bydd gwybodaeth ar gael i’r rheini sy’n unig fasnachwyr, y rheini sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain, a’r rheini sy’n ennill rhan o’u hincwm drwy’r cynllun Talu Wrth Ennill.
I bwy y mae’r gweithdy?
Bydd y cyfranogwyr yn weithwyr llawrydd profiadol, yn newydd i weithio’n llawrydd yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig newyddiaduraeth, neu’n dymuno bod yn weithiwyr llawrydd.
Ni fydd yn angenrheidiol cael unrhyw brofiad o weithio’n llawrydd ond bydd y gweithdy yn ddiweddariad defnyddiol ar gyfer gweithwyr llawrydd mwy profiadol (gan gynnwys newyddiadurwyr sy’n cynnig gwaith cysylltiadau cyhoeddus/cyfathrebu fel rhan o’u portffolio llawrydd).
Bydd y gweminar yn:
• Helpu’r cyfranogwyr i ennyn dealltwriaeth o elfennau ymarferol y bywyd llawrydd
• Darparu awgrymiadau a dulliau ar gyfer cynllunio ariannol gwell a rhwydweithio effeithiol • Annog myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol i rannu eu profiadau a’u pryderon
Bydd y sesiwn hwn yn edrych ar:
• Sgiliau ariannol ar gyfer gweithwyr llawrydd – sut i gyllidebu; gwahanu eich bywyd proffesiynol oddi wrth eich bywyd personol
• Gwahanol fathau o daliadau llawrydd – y cynllun Talu Wrth Ennill, Unig Fasnachwr, Cwmni Cyfyngedig
• Treth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr llawrydd
• Cadw cofnodion heb wastraffu amser – a goblygiadau trethu digidol newydd HMRC
• Sut i gyflwyno syniadau am waith a chytuno arno
• Sut i holi am daliadau
• Sut i gynllunio eich gwaith rhwydweithio yn ddigidol wrth ynysu
Beth y byddwch yn ei ddysgu:
Yn dilyn y gweithdy, bydd gan y cyfranogwyr syniad mwy eglur o sut i drefnu eu hunain a chynllunio er mwyn meddwl fel busnes. Byddant yn deall pwysigrwydd cadw cofnodion da, a’r goblygiadau treth ac Yswiriant Gwladol.