Cyflwyniad
A ydych yn teimlo’n hyderus yn adrodd ynghylch dioddefwyr, goroeswyr, pobl sy’n ofidus, sy’n galaru neu sy’n mynd drwy amser caled yn emosiynol? Beth yw bod yn sensitif a dangos parch ym marn y rheini rydych yn cyfweld â nhw, o bosibl? A ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau i ymdrin â nhw a’r effaith emosiynol posibl ar eich llesiant?
• Pob math o lunwyr cynnwys gyda phob lefel o brofiad o weithio ar bob llwyfan: newyddiadurwyr, cynhyrchwyr, ymchwilwyr, golygwyr, cynhyrchwyr cynnwys, gweithiwr proffesiynol cyfathrebu, gweithwyr cysylltiadau cyhoeddus, cynhyrchwyr cynnwys y cyfryngau cymdeithasol
• Gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr a gwneuthurwyr ffilmiau gyda phob lefel o brofiad
• Pobl sy’n gweithio ar newyddion, rhaglenni dogfen a rhaglenni ffeithiol sy’n cyfweld â phobl sy’n fregus yn emosiynol.
• Cyfathrebwyr, yn enwedig y rhieni sy’n gweithio yn y trydydd sector, er enghraifft, sy’n cyfweld â phobl sy’n fregus yn emosiynol
Beth y byddwch chi’n ei ddysgu?
Yn aml, gallwn fod yn gweithio gyda dioddefwyr, goroeswyr a chyfranwyr sydd mewn poen. Pan wneir y storïau hyn yn dda, gallant gael effaith a bod yn werthfawr. Bydd pob sesiwn ar-lein byw yn eich caniatáu i:
- ddod yn ymwybodol o drawma
- cael eich grymuso gyda sgiliau y byddwch yn gwybod eu bod yn arferion da
- dysgu technegau priodol ar gyfer cysylltu â phobl, meithrin perthnasoedd, eu cyfweld, ffilmio â nhw, ysgrifennu amdanynt a dilyn eu storïau sensitif.
- gwrando ar yr hyn y mae’n bosibl y bydd y rheini rydych yn cyfweld â nhw ei angen ganddoch drwy glipiau fideo gyda phobl a siaradodd â newyddiadurwyr ar adegau caled yn eu bywydau. Maent yn rhannu’r hyn a helpodd a’r hyn a barodd niwed.
- rhannu eich profiad, eich arbenigedd a’ch arsylwadau.
- edrych ar ôl eich hunan wrth ichi weithio ar storïau sy’n anodd yn emosiynol.
Mae pob sesiwn yn rhyngweithiol ac yn cynnwys clipiau sain o rieni a phlant sy’n galaru, llygad-dystion a goroeswyr camdriniaeth sy’n dioddef o drawma. Gwnaethant oll rannu eu storïau gyda newyddiadurwyr ac maent yn cynnig cyngor adeiladol a mewnwelediad pwerus. Mae hefyd wedi’i hysbysu gan yr arbenigwr a’r clinigwr trawma, yr Athro Stephen Regel. Mae pob sesiwn yn caniatáu amser am ryngweithiadau chat box, trafodaeth a sesiwn holi ac ateb.
Cynnwys y cwrs :
• Egwyddorion allweddol Adrodd Trawma a sut i’w cymhwyso
• Beth yw trawma, digwyddiad a allai fod yn drawmatig
• Cael pethau’n iawn o’r dechrau. Sefydlu perthynas broffesiynol gyda cyfranwyr
• Cyfweliad sensitif wyneb i wyneb ac o bell. Beth i’w ofyn, beth i beidio â gofyn. Ffocws
ar brofedigaeth a goroeswyr cam-drin
• Hunanofal: beth i gadw llygad amdano, beth i’w wneud yn ei gylch, sut i amddiffyn eich hun, adeiladu eich gwytnwch