Beth yw cynnwys y gweithdy?
Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn yn cwmpasu manylion WordPress, i’r rheini sy’n newydd i’r llwyfan (neu wedi rhoi tro arno ac wedi profi trafferthion ar y ffordd!)
Wrth lunio safle WordPress.com syml ac am ddim, byddwch yn dysgu am themâu, addasu, llywio, teclynnau, delweddau cyflwyno a sut i lunio tudalen gyda blociau Gutenberg. Mae’r hyfforddiant yn cwmpasu’r opsiynau ar gyfer llwytho storïau, delweddau a chynnwys amlgyfrwng gan gynnwys fideo a sain.
Bydd cyflwyniad hefyd i’r broses o fynd â’ch safle WordPress am ddim i’r lefel nesaf, gan gynnwys cynnal gwefan, themâu premiwm, dewis lluniwr gwefan ac ategion ar gyfer cyflymder ac effeithlonrwydd y safle ac optimeiddio chwilotwyr.
Nodyn: Mae’r gweithdy yn cyd-fynd â gweithdy Creu gwefan neu bortffolio personol Hyfforddiant NUJ Cymru, sy’n rhoi cipolwg o’r cynnwys y bydd ei angen arnoch ar gyfer llunio safle brand personol, gwasanaeth neu bortffolio.
Bydd pecyn cymorth PDF o argymhellion, offer ac adnoddau yn cael ei rannu yn ystod y gweithdy.
I bwy y mae’r gweithdy?
Mae’r gweithdy lefel dechreuwr hwn wedi’i anelu at lunwyr cynnwys, gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol cyfathrebu sy’n dymuno dechrau defnyddio WordPress i gynhyrchu gwefan bersonol, portffolio neu flog. Nid oes angen profiad blaenorol o WordPress, llunio gwefan na chodio.
Beth y byddaf yn ei ddysgu?
Yn ystod tair awr o hyfforddiant, byddwch yn dysgu sut i:
- Ymgyfarwyddo â dangosfwrdd a gosodiadau WordPress
- Dewis a gweithredu themâu
- Addasu’r gosodiadau gan gynnwys strwythurau URL a hunaniaeth safle
- Creu dewislen lywio gyda dolenni mewnol ac allanol
- Defnyddio golygydd blociau Gutenberg
- Llwytho cynnwys i neges WordPress, gydag optimeiddio chwilotwyr mewn golwg
- Ychwanegu cyfryngau amrywiol fel fideos YouTube
- Optimeiddio a llwytho delweddau i lyfrgell cyfryngau WordPress
- Datblygu eich safle ymhellach drwy gyflwyno opsiynau uwchraddio neu gynnal
- Gosod ategion a themâu premiwm ar safle a gyflwynir gan WordPress
Pa gyfarpar fydd ei angen arnaf?
Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt rhyngrwyd cryf. Nid yw’n bosibl cwblhau’r gweithdy hwn gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen.
Bydd y gweithdy’n cael ei ddarparu ar Zoom a bydd yn ofynnol i’r cyfranogwyr gofrestru o flaen llaw ar gyfer cyfrif am ddim yn wordpress.com (bydd y manylion yn cael eu cynnwys gyda’r cyfarwyddiadau ymuno).