Mae’r sesiwn gyflwyno wedi’i hanelu at y rheiny sy’n newydd i’r pwnc sy’n edrych am gyflwyniad ehangach i’r prif broblemau y gallent eu hwynebu.
Mae gwybodaeth sylfaenol o gyfraith y cyfryngau’n hanfodol ar gyfer newyddiaduraeth, a p’un a ydych yn fyfyriwr, cyhoeddwr lleol iawn, gohebydd newyddion cymunedol, blogiwr, podlediwr, gweithiwr llawrydd neu wedi dychwelyd i’r sector ar ôl seibiant gyrfa, mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen heb ei ail mewn cyfraith y cyfryngau yn 2021.
Bydd arbenigwr arweiniol y DU yng nghyfraith y cyfryngau, David Banks, yn cyflwyno sesiwn tair awr ar-lein sy’n anelu at roi gwybodaeth gyfredol dda ichi o’r prif broblemau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth gyhoeddi mewn print neu ar y we, neu drwy’r cyfryngau darlledu.
Bydd y sesiwn yn cwmpasu:
- Enllib
- Dirmyg
- Preifatrwydd, cyfrinachedd a diogelu data
- Cyfyngiadau gohebu yn y llysoedd
- Troseddau rhywiol
- Hawlfraint
- Moeseg y cyfryngau a chyrff gwarchod
Gwybodaeth arall
Rydych ond yn gymwys i gofrestru ar gyfer y cwrs hwn os ydych yn byw ac yn/neu’n gweithio yng Nghymru oherwydd mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Os ydych yn aelod o’r NUJ ac rydych wedi colli eich swydd yn ystod y chwe mis diwethaf, neu os ydych yn wynebu colli eich swydd, mae gennych hawl i gael dau ddiwrnod o hyfforddiant am ddim. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.