Cyfathrebu Strategol gyda Simon Williams
Mae cyfathrebu strategol yn ganolog i lwyddiant busnesau, elusennau a sefydliadau preifat a chyhoeddus. Mae gwybod sut i gyflwyno ymgyrchoedd integredig ac effeithiol gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, e-bost a chyhoeddiadau print yr un mor hanfodol â chael sylw yn y cyfryngau traddodiadol.
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich arwain gam wrth gam drwy ddatblygu strategaeth gyfathrebu. Byddwn yn ymdrin â phopeth o osod nodau, deall cynulleidfaoedd a datblygu negeseuon, i benderfynu ar sianeli, cynllunio gweithgareddau a mesur llwyddiant. Gyda llawer o awgrymiadau ymarferol ar hyd y ffordd, bydd y dull strategol hwn yn golygu bod eich cyfathrebiadau yn cael yr effaith sydd ei hangen arnynt.
Canlyniadau Dysgu
• Gwybod sut i greu strategaeth gyfathrebu ymarferol a defnyddiol ar gyfer eich busnes, sefydliad neu ymgyrch
• Bod yn gyfarwydd â dulliau o nodi a deall cynulleidfaoedd
• Deall sut i greu negeseuon ymgyrch effeithiol
• Gwerthfawrogi ystod a rhinweddau cymharol sianelau cyfathrebu
• Gallu dylunio gweithgareddau a thactegau i gyflawni eich strategaeth
Gwybodaeth arall
Mae gennym nifer cyfyngedig o docynnau i’r rhai nad ydynt yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
Os ydych yn aelod o’r NUJ ac wedi colli eich swydd yn y chwe mis diwethaf, neu os ydych yn wynebu colli eich swydd, mae gennych hawl i ddau ddiwrnod o hyfforddiant am ddim. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.