Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Lansio eich podlediad mewn diwrnod (gweithdy ar-lein) gyda Dan Mason

Bydd y gweithdy undydd hwn yn mynd â chi gam wrth gam drwy’r broses o lunio podlediad gan ddefnyddio eich ffôn clyfar (gan mwyaf).

Beth yw cynnwys y gweithdy?

Mae poblogrwydd podlediadau wedi ffrwydro, oherwydd ei bod yn hawdd eu canfod a gwrando arnynt ar eich ffôn symudol. A chan fod nifer o’r podleidiadau’n cynnwys cyfweliadau a recordiwyd o bell, a chan fod cynifer ohonom yn gweithio gartref, ni fu amser gwell i roi tro arni.

Bydd y gweithdy undydd hwn yn mynd â chi gam wrth gam drwy’r broses o lunio podlediad gan ddefnyddio eich ffôn clyfar (gan mwyaf), o recordio i olygu, o’i hyrwyddo i’w rannu. Mae’r hyfforddiant ar-lein, gan ddefnyddio llwyfan Zoom (am ddim).

Er gwybodaeth, ni fyddwch yn treulio’r diwrnod cyfan yn gwrando ar hyfforddwr – bydd y gweithdy mor rhyngweithiol ag y gallwn ei wneud, felly mae’n cyfuno dysgu gyda’r rhwydweithio sydd bob tro’n rhan werthfawr o gyrsiau Hyfforddiant NUJ Cymru.

Ar ôl cyflwyno’r grŵp, bydd y cyfranogwyr yn gwneud cyfres o ymarferion, gyda mynediad byw at y tiwtor i gael cymorth a chyngor yn ystod y dydd. Rydym yn gobeithio y bydd gennych gyfle i ymarfer cyfweliadau ar-lein gyda’r cyfranogwyr eraill. Bydd y diwrnod yn dod i ben gyda sesiwn adborth i’r grŵp.

Byddwch yn dysgu sut i gynllunio eich podlediad, recordio a chwtogi’r sain, a chymysgu lleisiau a cherddoriaeth i lunio cyflwyniadau bachog. Ni allwch osgoi ychydig o dechnoleg yn y broses, ond byddwn yn cyfyngu ar hynny cymaint â phosibl fel y gallwch ganolbwyntio ar lunio podlediad atyniadol. Byddwch yn llunio podlediad ar y diwrnod, ond nid oes yn rhaid ichi ei lansio i’r byd os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

Yn yr amser sydd ar gael, ni fyddwn yn gallu cwmpasu pob agwedd ar lunio podlediad yn fanwl. Fodd bynnag, bydd y canllaw PDF a’r gwersi tiwtorial ar fideo cysylltiedig yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich podlediad.

I bwy y mae’r gweithdy?

Os ydych chi erioed wedi ystyried sut i lunio podlediad ar gyfer eich sefydliad, eich sefydliad newyddion cymunedol neu at eich dibenion eich hunan, bydd y gweithdy hwn yn eich rhoi ar ben ffordd. Nid oes angen profiad blaenorol o recordio a golygu sain ond, fel podledydd llwyddiannus, bydd angen ichi deimlo’n hyderus wrth siarad i mewn i feicroffon a siarad â gwestai.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Bydd y gweithdy’n cael ei rannu yn dair prif ran: cynllunio, creu a rhannu.

Cynllunio eich podlediad

  • Cyflwyniad: beth yw podlediad beth bynnag?
  • Cynllunio teitl a phwnc eich podlediad
  • Penderfynu ar arddull eich podlediad
  • Llunio eich podlediad
  • Recordio a golygu gan ddefnyddio’r ap Anchor
  • Opsiynau ar gyfer recordio cyfweliadau o bell
  • Canfod cerddoriaeth am ddim ar gyfer eich podlediad
  • Gwybodaeth sylfaenol am yr amgylchedd recordio a microffonau
  • Llunio gwaith celf a theitlau ar gyfer podlediadau
  • Allgludo eich podlediad fel ffeil MP3 sy’n barod i’w rhannu
  • Rhannu eich podlediad
  • Uwchlwytho eich podlediad i westeiwr
  • Cyflwyno eich podlediad i gyfeiriaduron gan gynnwys iTunes, Sticher a Google Play
  • Rhannu eich podlediad ar y cyfryngau cymdeithasol

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?

I gael mynediad i’r gweithdy (ac offer ar-lein):

Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chysylltiad wifi dibynadwy. Cyfrif am ddim gyda Zoom (zoom.com), gydag ap Zoom am ddim wedi’i lawrlwytho i’ch cyfrifiadur.

I lunio eich podlediad eich hunan: Ffôn clyfar gyda batri llawn (iPhone neu Android) neu iPad, gyda gwefrydd a chlustffonau sy’n cynnwys meicroffon. Yr ap podlediadau Anchor (am ddim ar gyfer iOS ac Android – bydd y broses o greu cyfrif yn cael ei chynnwys yn y gweithdy). Argymhellir: yr ap Voice Record Pro (am ddim ar gyfer iOS ac Android).

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG