Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Dweud storïau amlgyfrwng ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol (gweithdy ar-lein)

Sut i lunio cynnwys ar-lein atyniadol – gyda Dan Mason

Beth yw pwnc y gweithdy?

Yr allwedd i ehangu eich cynulleidfa ar y cyfryngau cymdeithasol yw cynnwys, cynnwys, cynnwys, Bydd y gweithdy undydd hwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu technegau syml ond pwerus ar gyfer datblygu storïau ar amrywiaeth o ffurfiau a ddyluniwyd i ddenu darllenwyr ac i annog eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r gwersi’n berthnasol ar draws newyddion ar-lein, ymgyrchoedd undebau, cylchlythyrau elusennau a dulliau cyfathrebu corfforaethol ac nid oes angen profiad newyddiadurol ar eu cyfer.

Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu syniadau am storïau ar gyfer unrhyw bwnc ac yna’n llunio storïau atyniadol ar ffurf testun a lluniau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gael hyd i luniau a’u golygu a chynnwys amlgyfrwng arall, gan gynnwys siartiau, yn barod i’w rhannu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.  Mae’r offer ar-lein y byddwch yn eu defnyddio i lunio storïau am ddim ac yn hawdd i’w defnyddio, a bydd y cyfranogwyr yn gadael y gweithdy gyda phecyn cymorth PDF i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

Er gwybodaeth: Nid yw’r gweithdy hwn yn cwmpasu ffilmio a golygu fideos, na sain/podlediadau, sy’n cael eu cynnwys mewn cyrsiau ar wahân gan Hyfforddiant NUJ Cymru.

I bwy y mae’r gweithdy?

Newyddiadurwyr, gweithwyr proffesiynol cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu corfforaethol, neu unrhyw un sy’n gyfrifol am gynnal gwefan, blog neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol cwmni neu sefydliad. Bydd y cyfranogwyr yn gallu defnyddio ac uwchlwytho cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram) i lefel sylfaenol o leiaf. Nid oes angen profiad newyddiadurol blaenorol.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Mae hwn yn weithdy ymarferol a fydd yn dysgu ichi sut i:

  • Lunio syniadau newydd ar gyfer cynnwys gyda chynulleidfa darged mewn golwg
  • Llunio penawdau atyniadol sy’n annog pobl i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Llunio, uwchlwytho a rhannu amrywiaeth o storïau testun, gan ddefnyddio cyfweliadau ac ymchwil ar-lein
  • Llunio storïau gweledol, gan gynnwys ychwanegu testun at luniau i lunio storïau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Llunio storïau wedi’u ‘curadu’, gyda negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol wedi’u cynnwys o fewn y testun.
  • Llunio siartiau syml i’w cynnwys o fewn storïau neu fel graffeg ar ei ben ei hunan.
  • Canfod a golygu lluniau gan ddefnyddio golygydd ar-lein pwerus

Pa gyfarpar y bydd ei angen arnaf?

Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda phorwr Chrome wedi’i osod (a heb gyfyngiadau wal tân corfforaethol sy’n atal mynediad i wefannau a chofrestru). Nid yw’n bosibl cwblhau’r gweithdy hwn gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen.

Cyfrif am ddim gyda medium.com (llwyfan ysgrifennu a blogio). Bydd angen ichi gofrestru gydag offer ar-lein eraill ar y diwrnod, felly bydd angen mynediad hawdd at eich e-bost i gadarnhau eich cofrestriad.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG