Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Skills Network Cyrsiau

Pryd?

Mawrth / 31 / Gwe  @   -  Mawrth / 31 / Gwe  @ 

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £Rhad ac am ddim
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £20.00
Di-breswylwyr Cymru £40.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Rheoli Gwrthdaro 

P’un a ydych yn unigolyn sy’n ystyried symud i swydd arweinydd tîm neu reoli, neu’n gyflogwr sy’n ystyried cyrsiau hyfforddi rheoli gwrthdaro ar gyfer eich staff, gallwn ddarparu ar eich cyfer. Mae’r cwrs hyfforddiant rheoli gwrthdaro yn darparu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ynghylch sut i gydnabod a rheoli gwahanol fathau o wrthdaro yn y gwaith. Mae sut i gefnogi unigolion drwy sefyllfaoedd o wrthdaro hefyd yn cael ei drafod.  

 

  • Ysgrifennu CV 

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu prif gysyniadau sut i lunio CV gan gynnwys y diben a’r cynnwys a ddisgwylir, yn ogystal â nodi’r fformat addas ar gyfer CV, cwblhau CV a’i adolygu o ran cywirdeb.  

 

  • Datblygu Hyder Personol a Hunanymwybyddiaeth 

Mae’r cwrs hwn yn dysgu sut i edrych ar ymddygiad personol mewn sefyllfaoedd lle byddwch yn teimlo’n hyderus neu lle mae diffyg hyder, meysydd o ddiffyg hyder, yn ogystal â sefyllfaoedd anghyffyrddus a’r rhesymau dros y rhain. Adolygir yr enghreifftiau o ymddygiad allai fod yn amhriodol mewn sefyllfaoedd o’r fath, a sut i newid meddylfryd ac ymddygiad er mwyn cymryd rhan mewn modd mwy effeithiol. 

 

Byddwch yn edrych ar sefyllfaoedd sy’n peri straen, sut i adnabod teimladau o straen a thechnegau i’w lleihau ac i wella llesiant. Byddwch yn cynllunio amcanion tymor byr, cynlluniau gweithredu i’w cyflawni, sut i nodi a chofnodi cyflawniadau, a sut y gall pennu amcanion effeithio ar hyder. 

 

  • Elfennau Hanfodol Datblygu Gyrfa 

Mae’r cwrs hyfforddiant datblygu gyrfa wedi’i anelu at unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd i helpu i roi hwb i ddatblygiad eu gyrfa a’u hunanddatblygiad, yn academaidd ac yn gymdeithasol. Mae’r Rhaglen Astudiaethau Elfennau Hanfodol wedi’i thargedu at golegau, gyda’r ddealltwriaeth y bydd y dysgwyr yn ymgymryd â rhannau dewisol o’r cynnwys ac asesiadau mewn meysydd perthnasol i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith.   

 

  • Elfennau Hanfodol Ymwybyddiaeth Gymdeithasol 

 

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd i helpu i roi hwb i’w sgiliau ar gyfer llwyddo, datblygiad personol a chyflogadwyedd. Mae’r cwrs yn cwmpasu ymwybyddiaeth gymdeithasol a hunanddatblygiad, yn enwedig mewn perthynas â sgiliau cyfathrebu, ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a dealltwriaeth o faethiant a llesiant. Bydd y cwrs hwn hefyd yn addysgu ynghylch ymwybyddiaeth ar-lein, rheoli arian a materion cyfoes. Mae’r rhaglen astudiaeth elfennau hanfodol wedi’i thargedu at golegau, gyda’r ddealltwriaeth y bydd y dysgwyr yn ymgymryd â rhannau dewisol o’r cynnwys ac asesiadau mewn meysydd perthnasol i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith.   

 

  • Archwilio Cyfleoedd am Swyddi 

Archwilio gwybodaeth am opsiynau am swyddi gan gynnwys sut i ganfod swydd ar sail diddordebau, profiad, sgiliau a rhinweddau. Byddwch yn canfod sut i ganfod opsiynau am swyddi realistig a’r camau nesaf i alluogi i chi ymgeisio amdanynt.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 

Gweithredwyd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn Ewrop ar y 25ain o Fai 2018 ac fe’i dyluniwyd i foderneiddio’r cyfreithiau sy’n diogelu gwybodaeth bersonol unigolion. Mae’n hanfodol bod unrhyw gwmni sy’n ymdrin â data defnyddwyr yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliad. 

 

Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n ymdrin â gwybodaeth bersonol yn ymwybodol o’r Rheoliad a sut i lynu ato yn eu harferion gweithio. Bydd y cwrs GDPR yn darparu dealltwriaeth well o sut i weithredu ei egwyddorion yn eich gwaith a sut mae’n hyrwyddo hawliau unigolion mewn perthynas â chasglu a rheoli data. 

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Diogelwch y Rhyngrwyd 

 

Gyda thros 65 miliwn o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y DU yn unig, ni fu gwybod sut i aros yn ddiogel ar-lein fyth yn fwy pwysig. P’un a ydych yn unigolyn sy’n dymuno cynyddu eich gwybodaeth am resymau personol neu broffesiynol, neu’n gyflogwr sy’n edrych am hyfforddiant diogelwch ar y rhyngrwyd ar gyfer eich staff, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol. 

 

Mae’n berthnasol i holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd, yn enwedig rhieni a gofalwyr, staff ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, lleoliadau addysg, ac ati, a bydd ein cwrs Egwyddorion Diogelwch y Rhyngrwyd ar-lein a ardystiwyd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth i chi. Fe’i dyluniwyd i amlygu meysydd arbennig sy’n peri pryder i ddefnyddwyr y rhyngrwyd, fel rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein a’r posibilrwydd y cewch eich annog i feithrin perthynas amhriodol ar-lein, a bydd yn cynyddu eich ymwybyddiaeth o beth yw’r peryglon wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.   

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Arwain a Chymell Tîm 

 

Mae’r gallu i arwain a chymell tîm yn sgiliau hynod o bwysig. Mae arweinydd da yn ysbrydoli ac yn cymell pobl, sy’n gwneud iddynt weithio’n galetach a bod yn fwy effeithlon. Mae’r cwrs byr hwn yn anelu at ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ddeall sut i arwain ac i gymell tîm. Byddwch yn dysgu dulliau cyfathrebu effeithiol, a sut i gymell tîm neu unigolyn a datblygu tîm.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Trefnu a Dirprwyo 

 

Mae cyrsiau rheoli busnes yn ffordd effeithiol i unigolion feithrin y sgiliau sydd o fudd i’w gyrfaoedd, ac i gyflogwyr gynyddu sgiliau eu staff. Bydd ein cwrs Trefnu a Dirprwyo a ardystiwyd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ymdrin â chyfrifoldebau rheoli a gwella fel arweinydd. Bydd yn eich dysgu ynghylch sut i ddatblygu eich sgiliau rheoli, a sut i wella eich sgiliau trefnu a dirprwyo.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Rheoli Arian Personol 

 

A oes gennych ddiddordeb mewn astudio ein cwrs Rheoli Arian Personol? A oes angen help arnoch i gyflawni eich amcanion ariannol? Mae’r cwrs hwn yn anelu at alluogi ystyriaeth fwy gofalus o arian, yn enwedig sut i gyllidebu’n well ac arbed arian. Byddwch yn dysgu am gyfraddau llog a sut maent yn effeithio ar benderfyniadau ariannol. Byddwch yn dod yn fwy ymwybodol o wariant dyddiol, wythnosol a misol gan fod y cwrs yn annog yr arfer o werthuso gwariant a pha mor angenrheidiol yw hyn. 

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Cynllunio a Dyrannu Gwaith 

 

Dysgwch y sgiliau allweddol sydd eu hangen i reoli aelodau’r tîm yn effeithiol drwy gynllunio a dyrannu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn y gweithle. Gall ein cwrs Cynllunio a Dyrannu Gwaith sydd wedi’i ardystio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus agor amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth i unigolion ac mae’n darparu cyfle i gyflogwyr ddatblygu sgiliau rheoli staff. Byddwch yn meithrin gwybodaeth am sgiliau sylfaenol cynllunio prosiectau a dyrannu gwaith, yn ogystal â datblygu’r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheoli tîm, rheoli perfformiad, rheoli prosiectau, a mwy. 

 

  • Paratoi ar gyfer Cyfweliadau 

 

Mae’r cwrs hwn yn eich dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliad, gan gynnwys iaith y corff, ymddangosiad personol, cwestiynau ac ymatebion, yn ogystal â sut i wrando’n effeithiol mewn cyfweliad.  

 

Byddwch hefyd yn dysgu am iaith y corff priodol, sgiliau siarad a gwrando a gofyn am eglurhad pellach mewn cyfweliad, yn ogystal â gofyn cwestiynau perthnasol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a nodi agweddau ar eich perfformiad eich hunan a oedd yn gadarnhaol ac y gellid eu gwella.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Atal a Rheoli Heintiau 

 

Mae dealltwriaeth o sut i atal a rheoli lledaeniad heintiau mewn ffordd effeithiol yn hanfodol o ran sicrhau nad yw unigolion, heb yn wybod iddynt, yn peri i’w teulu, ffrindiau, cydweithwyr ac unrhyw bobl eraill y maent mewn cyswllt â nhw fynd yn wael. 

 

Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn meithrin dealltwriaeth well o sut i atal a rheoli lledaeniad heintiau, yn y gweithle a gartref. Byddwch hefyd yn ennill gwybodaeth am sut i nodi heintiau, yn ogystal â gwahanol fathau o heintiau. 

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Cymunedau Cynaliadwy 

 

Mae cymunedau cynaliadwy yn rhan o duedd sy’n tyfu tuag at fod yn fwy ymwybodol a chyfrifol mewn perthynas â’r amgylchedd, gan gyfuno mwy o fannau gwyrdd gyda ffynonellau ynni mwy ecogyfeillgar. 

 

A ydych am wybod mwy am gymunedau cynaliadwy? Mae’r cwrs hwn yn darparu diffiniad o gymuned gynaliadwy yn ogystal â’u buddiannau lleol a byd eang. Dysgwch sut i greu cymuned gynaliadwy ac am y cymorth sydd ar gael i helpu aelodau cymunedau. 

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Rheoli Ynni mewn modd Cynaliadwy 

Bu’r gwaith o symud i ffwrdd o danwyddau ffosil tuag at ffynonellau ynni gwyrdd fel ynni’r gwynt a’r haul yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae ffordd hir i fynd o hyd i leihau allyriadau carbon. 

 

Dyluniwyd y cwrs hwn i egluro beth yw rheoli ynni cynaliadwy, ffyrdd o reoli’r defnydd o ynni a thechnegau i arbed ynni a allai helpu i leihau olion troed carbon. Dysgwch sut i bennu targedau arbed ynni a sut y gallai deddfwriaeth a chytundebau rhyngwladol gael effaith.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Diogelu Oedolion a Phlant 

 

Mae’r cwrs yn berthnasol i unigolion sy’n dymuno magu sgiliau neu gyflogwyr sydd eisiau cwrs hyfforddi ar gyfer eu staff a’u gwirfoddolwyr, ac mae meddu ar wybodaeth am ddiogelu plant ac oedolion yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes, yn enwedig y rheini mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant. 

 

Mae ein cwrs Diogelu Oedolion a Phlant sydd wedi’i ardystio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn cwmpasu’r pynciau allweddol fel sut i adnabod camdriniaeth ac esgeulustod, arferion da ar gyfer ymateb i gyhuddiadau o gamdriniaeth, polisïau a gweithdrefnau diogelwch, a sut i leihau’r tebygolrwydd o gamdriniaeth a’r perygl o niwed. 

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau 

 

P’un a ydych yn unigolyn sy’n dymuno gwneud cynnydd yn eich gyrfa, neu’n gyflogwr sy’n dymuno gwella sgiliau staff, mae sgiliau mewn datrys problemau a gwneud penderfyniadau yn elfen allweddol ar gyfer unrhyw arweinydd tîm neu rôl rheoli. Bydd ein cwrs datrys problemau a gwneud penderfyniadau sydd wedi’i ardystio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn darparu’r sgiliau allweddol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithredu prosesau gwneud penderfyniadau effeithiol a dewis y dull gorau o weithredu. Mae’n cwmpasu pynciau fel diffinio, archwilio a dadansoddi problemau, data a gwybodaeth, gwerthuso problemau, a thechnegau cynllunio.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Rheoli Straen 

 

Mae’r ymchwil yn dangos bod straen, ynghyd â gorbryder ac iselder, i gyfrif am 51% o’r holl achosion o salwch sy’n gysylltiedig â gwaith yn y DU, felly mae’n hanfodol bod pobl yn gwybod sut i reoli pwysau yn y gwaith. Ni waeth beth yw rôl y swydd, maint y busnes na’r sector, gall pawb brofi straen, ac mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i ddiogelu eu cyflogeion rhagddo. 

 

Mae ein cwrs Rheoli Straen ar-lein sydd wedi’i ardystio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn berffaith ar gyfer unigolion sy’n dymuno magu sgiliau am resymau personol neu broffesiynol, neu gyflogwyr sy’n edrych am hyfforddiant rheoli straen ar gyfer eu staff. Bydd yn darparu’r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ac mae’n cwmpasu pynciau sy’n cynnwys achosion ac effaith straen, symptomau, technegau rheoli, sut i ddarparu cymorth a lleihau straen, a chyfrifoldebau rheoli.   

  

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Deall Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

 

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dermau a ddefnyddir i hyrwyddo cyfleoedd i bawb, gan roi cyfle i bob unigolyn gyflawni ei botensial, yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu, yn ogystal â chydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau mewn pobl. 

 

Mae ein cwrs hyfforddi cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd wedi’i ardystio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn cyflwyno agweddau allweddol cydraddoldeb ac amrywiaeth a phwysigrwydd hyn o fewn y gweithle, cymdeithas a chymunedau. Mae’r hyfforddiant cydraddoldeb hwn yn cwmpasu prif egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, hawliau a chyfrifoldebau cyflogeion a chyflogwyr yn y gweithle, cymunedau amrywiol a phwysigrwydd gweithio neu ddysgu mewn lle sy’n hyrwyddo amrywiaeth.  

 

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Deall Arweinyddiaeth 

 

O gofio’r amcangyfrif bod 8 o bob 10 o gyflogeion yn gadael eu swyddi oherwydd eu bod yn teimlo’n anhapus am eu rhagolygon, mae’n glir bod hyfforddiant arweinyddiaeth effeithiol yn gonglfaen unrhyw weithle da. P’un a ydych yn unigolyn sy’n edrych am gwrs arweinyddiaeth i ddod â budd i’ch gyrfa, neu’n gyflogwr sy’n edrych am hyfforddiant arweinyddiaeth i staff, mae ein cwrs Deall Arweinyddiaeth sydd wedi’i ardystio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn berffaith. 

 

Mae’r cwrs arweinyddiaeth ar-lein hwn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys y mathau ac arddulliau gwahanol o arweinyddiaeth, eu heffeithiau ar ymddygiad unigolion a grwpiau, sut i ddatblygu arddull arweinyddiaeth effeithiol, a mwy.  

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales