Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Rheoli Ynni mewn modd Cynaliadwy
Trosolwg o’r Cwrs
Bu’r gwaith o symud i ffwrdd o danwyddau ffosil tuag at ffynonellau ynni gwyrdd fel ynni’r gwynt a’r haul yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae ffordd hir i fynd o hyd i leihau allyriadau carbon.
Dyluniwyd y cwrs hwn i egluro beth yw rheoli ynni cynaliadwy, ffyrdd o reoli’r defnydd o ynni a thechnegau i arbed ynni a allai helpu i leihau olion troed carbon. Dysgwch sut i bennu targedau arbed ynni a sut y gallai deddfwriaeth a chytundebau rhyngwladol gael effaith.