Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Sicrhau sylw yn y cyfryngau darlledu ar gyfer eich adroddiad neu ymgyrch (Cymraeg)

Pryd?

September / 22 / Mer  @  10:00 am  -  September / 22 / Mer  @  12:30 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £40.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £30.00
Di-breswylwyr Cymru £50.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

***Sylwch y bydd y cwrs hwn yn Gymraeg***

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich helpu i ddefnyddio pŵer newyddion teledu a radio i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.

Bydd y cwrs yn eich tywys trwy ddull strategol o ddatblygu cynllun a negeseuon, ymgysylltu â newyddiadurwyr, a pharatoi cynnwys i gael sylw effeithiol. Byddwn hefyd yn ymdrin â sut i gefnogi llefarwyr a rheoli risgiau, yn ogystal â gweithio’n ddwyieithog.

Ar gyfer pwy?

Gweithwyr proffesiynol ym maes cyfathrebu ac eraill sy’n gweithio ar ymgyrchoedd dielw sydd am sicrhau dylanwad gwleidyddol neu gyhoeddus gan ddefnyddio’r cyfryngau.

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Erbyn diwedd y bore, byddwch yn:

• Deall sut y gall cyfryngau darlledu eich helpu i dylanwadu a chodi ymwybyddiaeth

• Dysgu’r hyn mae newyddiadurwyr darlledu yn chwilio amdano, a sut i ymgysylltu â nhw’n effeithiol

• Gwybod pa baratoadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i ennill sylw da a rheoli risgiau

Bydd y cwrs yn edrych yn benodol ar y cyd-destun Cymreig ac yn cynnwys ystyriaethau dwyieithog.

Bywgraffiad

Mae Richard Nosworthy yn Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd dwyieithog, gyda ffocws ar weithio i elusennau a sefydliadau dielw. Yn gyn newyddiadurwr a Gohebydd Iechyd yn newyddion ITV Cymru, bu Richard yn gweithio am 8 mlynedd yn WWF Cymru, lle daeth yn Bennaeth Cyfathrebu a rheolodd ymgyrchoedd a phrosiectau cyfathrebu eiriolaeth. Darganfyddwch fwy yn www.richardnosworthy.cymru

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales