Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Sgiliau Gloi Cyflym – Ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol

Pryd?

Ionawr / 13 / Gwe  @  12:00 pm  -  Ionawr / 13 / Gwe  @  1:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £2.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £5.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £2.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £2.00
Di-breswylwyr Cymru £5.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

gyda Dan Mason

Beth yw cynnwys y cwrs?

Os ydych yn hyrwyddo eich prosiect, gwasanaeth neu ddigwyddiad, yn codi arian i achos, neu’n amlygu mater pwysig, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn darparu ffordd bwerus o gyfleu eich neges. Ond sut rydych yn dechrau cynllunio a rhedeg ymgyrch sy’n sicrhau canlyniadau?

Yn y sesiwn Sgiliau Gloi gwener hon, bydd yr hyfforddwr Dan Mason yn rhannu argymhellion profedig a sicr ar gyfer cael effaith fwy gyda chyn lleied o ffwdan â phosibl. Byddwn yn cwmpasu sut i sefydlu’r amcan a’r negeseuon allweddol ar gyfer eich ymgyrch, sut i gadw’r momentwm gyda chynnwys deniadol, a mwy.

Bydd pecyn cymorth cam-wrth-gam yn cael ei rannu ar y diwrnod.

I bwy y mae’r cwrs?

Pobl greadigol sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar lefel sylfaenol neu ganolradd, ond sy’n ansicr ynghylch sut i ddechrau lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?

Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt dibynadwy â’r rhyngrwyd a mynediad i Zoom.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales