Hyfforddwr: Natalie Ann Holborow
Rydych chi’n gwybod bod angen i chi fod yn cynhyrchu cynnwys rheolaidd – boed hynny’n flogiau, e-lyfrau neu gynnwys cyfryngau cymdeithasol – ond a yw eich strategaeth bresennol ychydig yn ad-hoc? Mae cael calendr cynnwys effeithiol nid yn unig yn ennyn diddordeb eich cynulleidfa, ond hefyd yn sicrhau bod eich strategaeth yn drefnus, yn gyson ac yn symlach i helpu i wneud eich swydd yn llawer haws. Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu:
Sut i greu eich calendr cynnwys eich hun
Sut i gynnal archwiliad cynnwys
Sut i ddewis y fformatau a’r sianeli cywir ar gyfer cynnwys
Sut i ddewis pynciau perthnasol ar gyfer ymgyrchoedd
Sut i olrhain a mesur cynnydd
A’r newyddion da yw nad oes angen unrhyw offer ffansi neu ddrud arnoch – gyda thaenlen, eich arbenigedd eich hun a pheth ymchwil ar-lein, gallwch greu calendr sy’n gweithio i chi trwy gydol y flwyddyn.
Fformat
Mae hwn yn gwrs Ar-lein, sy’n cael ei redeg ar y platfform Zoom. Sylwch nad yw ein cyrsiau wedi’u cofnodi. Gweler ein telerau ac amodau llawn yn www.nujtrainingwales.org am ragor o wybodaeth am ein gweithdrefnau archebu, polisi canslo a mwy.