Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Newyddiaduraeth Data (Aiden O’Donnell)

Pryd?

Ionawr / 17 / Maw  @  10:00 am  -  Ionawr / 17 / Maw  @  4:00 pm

Ble?

JOMEC - CF10 1FS

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £45.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £30.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £55.00
Di-breswylwyr Cymru £80.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Mae’r we wedi agor byd newydd o wybodaeth a data i newyddiadurwyr y gellid eu defnyddio i ganfod a dilysu storïau. Mae ein cwrs undydd yn gyflwyniad hanfodol i’r maes newydd hwn, sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’r cyfranogwyr ymdrin â data fel ffynhonnell newyddiadurol.

Ein tiwtor arbenigol yw Aidan O’Donnell o Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Bydd yn cwmpasu ble i ganfod data, sut i’w paratoi, sut i’w cwestiynu a sut i gyfleu unrhyw ganfyddiadau newyddiadurol sy’n deillio ohonynt.

Byddwn yn gweithio gyda setiau data gwirioneddol ac yn rhoi’r dulliau i’r cyfranogwyr naill ai integreiddio’r data i mewn i’r gwaith a wnânt eisoes neu ehangu’r math o waith a wnânt drwy ddefnyddio data fel ffynhonnell. Bydd y cwrs hefyd yn cyflwyno technegau datblygedig i’r cyfranogwyr ac yn dangos sut y gallant adeiladu ar y sgiliau y maent wedi’u dysgu ar y cwrs hwn. Mae angen ymwybyddiaeth sylfaenol o gyfrifiaduron er mwyn llywio a thrafod adnoddau ar y we.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales