Hyfforddi a Mentora Ar-lein – Myfyrio ac ymarfer atgyrchol
Tiwtor: Pam Heneberry
“I cannot teach anybody anything, I can only make them think”
Socrates
Diben ein digwyddiadau diweddaru Hyfforddi a Mentora yw darparu cyrsiau diweddaru sgiliau parhaus ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl mentora/hyfforddi neu arweinyddiaeth yng Nghymru a rhoi cyfle i rwydweithio, a rhannu syniadau a’r arferion gorau.
Bydd y sesiwn hon yn archwilio Dulliau Myfyrio ac Ymarfer Atgyrchol. Sut y gallwn gyrraedd cyflwr dyfnach o fyfyrio a fydd yn ein cynorthwyo i herio ein tybiadau a’n syniadau rhagdybiedig, gan ein galluogi i fod yn hyfforddwr ac yn fentor mwy effeithiol? Sut y gallwn gyflwyno’r sgiliau hyn i’n cleientiaid er mwyn cynorthwyo i ddatgelu a herio patrymau ymddygiad a phrosesau meddwl?
Bydd y sesiwn yn ystyried y cysyniadau o fyfyrio ac ymarfer atgyrchol fel dull o gynorthwyo’r rheini rydym yn eu hyfforddi/mentora i ddeall a dysgu o’u gweithrediadau a chynorthwyo ein hunain i ystyried “Bod” yn ogystal â “Gwneud”.
• Beth yw hyn?
• Pam mae’n bwysig?
• Beth yw’r cyswllt â hyfforddi?
• Sut ydych chi’n ei wneud?