Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Gyda’n Gilydd, yn Gryfach: ymagwedd gyfunol at Iechyd Meddwl (Cynhadledd ar-lein)

Pryd?

Ionawr / 22 / Sad  @  10:00 am  -  Ionawr / 22 / Sad  @  4:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £5.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £5.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £20.00
Di-breswylwyr Cymru £20.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Gyda’n gilydd, yn gryfach: ymagwedd gyfunol at Iechyd Meddwl

Drwy gydol y pandemig, mae iechyd meddwl wedi bod yn fater allweddol i’n haelodau. Boed gweithwyr llawrydd neu staff, yn gweithio gartref neu mewn gweithle arall, mae pawb wedi profi heriau i’w hiechyd meddwl.

Mae’r NUJ wedi trefnu’r rhith-gynhadledd hon i gefnogi iechyd meddwl ei holl aelodau drwy gyfuniad o brif siaradwyr a gweithdai rhyngweithiol ar amrywiaeth o bynciau.

Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:

• mabwysiadu ymagwedd gyfunol at ofalu am iechyd meddwl

• sut i adnabod trallod meddwl

• rheoli trawma

• ymagwedd iechyd a diogelwch at ofalu am iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr llawrydd a chyflogedig

Bydd llu o bethau y gallwch elwa arnynt yn ystod y diwrnod, p’un ai fel unigolyn neu gynrychiolydd.

Cynhelir y gynhadledd ar Zoom. Bydd egwyliau rheolaidd. Gallwch fynychu cymaint o sesiynau ag y dymunwch.

Aelodau:

Dysgwch sut i ddiogelu eich iechyd meddwl, cadw llygad ar eich cydweithwyr, a gwybod ble gallwch gyrchu adnoddau a chymorth.

Cewch wybod beth yw rhwymedigaethau cyfreithiol eich cyflogwr, a sut gall eich cynrychiolwyr godi materion fel llwythi gwaith a diogelwch yn y gweithle sy’n creu straen a phryder.

Cynrychiolwyr:

Dysgwch gan gynrychiolwyr eraill a’r arbenigwyr am yr ymchwil a’r wybodaeth newydd, ac am arfer da o ran ymagweddau cyfunol at wella cymorth i aelodau mewn gweithleoedd, yn cynnwys gweithwyr llawrydd.

Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â sut gallwch ddefnyddio prosesau Iechyd a Diogelwch a’r Ddeddf Cydraddoldeb i ddiogelu hawliau aelodau a’u hiechyd meddwl yn y gwaith.

Gofalu am ein hiechyd meddwl ninnau ac iechyd meddwl eraill.

Bydd testunau’r sesiynau’n cynnwys pecyn cymorth ac adnoddau iechyd meddwl, Pilates wrth y ddesg, trafodaeth banel gyda chynrychiolwyr yr NUJ. Mae pum sesiwn grŵp:

• Gweithio’n ddiogel fel gweithiwr llawrydd

• Rheoli trawma yn effeithiol

• Iechyd a Diogelwch yn y gweithle: ymagwedd gyfunol at iechyd meddwl

• Ymwybyddiaeth ofalgar

• Ysgrifennu creadigol ar gyfer iechyd meddwl

Cynhelir y pum sesiwn grŵp yn y bore a byddant yn cael eu hail-gyflwyno yn y prynhawn. Gallwch ddewis mynychu un sesiwn yn y bore ac un arall yn y prynhawn.

Bydd digon o gyfleoedd i wrando ar brofiadau ac enghreifftiau o arfer da gan eraill, ynghyd â chael amser i rannu’ch rhai chwithau.

Rhaglen fanwl y gynhadledd (rhai manylion i’w cadarnhau)

Iechyd Meddwl mewn Newyddiaduraeth:

Siarad am iechyd meddwl – ymagwedd gyfunol ac Undeb Llafur

Pecyn cymorth Iechyd Meddwl – adnabod trallod meddwl: adnoddau a chymorth

Dysgu gan undebau eraill. (I gynnwys camddefnyddio sylweddau a chymorth yn y pecyn cymorth)

Sesiynau grŵp 1 – 12.00 – 12.45

1. Gweithio gartref yn ddiogel fel gweithiwr llawrydd – Caroline Holmes

2. Rheoli trawma yn effeithiol – Jo Healey

3. Iechyd a Diogelwch yn y gweithle (ymagwedd gyfunol at Iechyd Meddwl) – Tracy Walsh

4. Ymwybyddiaeth ofalgar – Padraig O’Morain

5. Ysgrifennu creadigol ar gyfer iechyd meddwl – Catherine Deveney

Sesiwn Pilates wrth y ddesg – cyflwynir gan Practical Pilates

Sesiynau grŵp 2 – 13.30 – 14.15

1. Gweithio gartref yn ddiogel fel gweithiwr llawrydd – Caroline Holmes

2. Rheoli trawma yn effeithiol – Jo Healey

3. Iechyd a Diogelwch yn y gweithle (ymagwedd gyfunol at Iechyd Meddwl) – Tracy Walsh

4. Ymwybyddiaeth ofalgar – Padraig O’Morain

5. Ysgrifennu creadigol ar gyfer iechyd meddwl – Catherine Deveney

Trafodaeth banel Yn trin: y pethau rydyn ni wedi’u gwneud mewn gweithleoedd sydd wedi gweithio’n dda. Sut olwg allai fod ar fyd gwaith yn y dyfodol? Dod nôl yn gryfach

Crynodeb gan y cadeirydd

Mae Hyfforddiant NUJ Cymru Wales yn cynnig rhaglen o gyrsiau ymarferol, â chymhorthdal, ar sgiliau newyddiaduraeth graidd a chyfryngau newydd. Ariennir NUJTCW gan Lywodraeth Cymru a chyflwynir gan reolwr prosiect llawrydd yr NUJ.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales