Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Cyflymwch eich ysgrifennu – gyda Judi Goodwin

Pryd?

September / 24 / Gwe  @  9:30 am  -  September / 24 / Gwe  @  4:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £35.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £65.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £47.50
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £60.00
Di-breswylwyr Cymru £75.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

***Sylwch y bydd y cwrs hwn yn Saesneg***

Gwaredwch y rhwystrau, ysgrifennwch yn gyflymach ac yn fwy rhwydd, a chynyddwch eich enillion drwy ysgrifennu dwywaith gymaint o gopi yn hanner yr amser.

Mae’n bosibl eich bod wedi meddwl pam rydych weithiau, ar rai dyddiau, yn gallu chwysu dros eich bysellfwrdd am oriau a llunio dim ond paragraff lletchwith neu ddau. Ond eto, rhai o’r darnau gorau yw’r rheini nad oes angen llawer o ymdrech i’w llunio. Mae’r geiriau fel petaent yn ymddangos fel hud a lledrith, bron fel nad oes ganddynt lawer i’w wneud â’ch prosesau meddwl, ond eto gall hyn fod y gwaith gorau a wnewch yn aml. Felly, sut y gallwch chi alw ar yr egni arbennig hwn a’i gwneud yn haws ichi fanteisio arno?

Pryd mae e?
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar draws dau weithdy boreol:
– 24ain Medi, 9.30am – 1pm
– 27ain Medi, 9.30am – 1pm
Bydd angen i chi fynychu’r ddwy sesiwn.

Beth yw cynnwys y cwrs?

Dyluniwyd y gweithdy i gael gwared ar y rhwystrau sy’n eich dal yn ôl o bosibl. Bydd gemau ysgrifennu, trafodaethau ac adolygiad difrifol o’r broses ysgrifennu yn dangos ffordd newydd i chi o fynd i’r afael â thasgau ysgrifennu yn y dyfodol. Byddwn yn edrych ar y theori Ochr Chwith yr Ymennydd/Ochr Dde yr Ymennydd mewn perthynas â golygu a chreadigrwydd, ac mae’n bosibl y byddwch yn canfod dull newydd, mwy grymus o gyfathrebu.

I bwy y mae’r cwrs?

Os ydych erioed wedi brwydro gyda chael trafferth ysgrifennu, neu wedi gweithio hyd oriau mân y bore i anfon gwaith yn ôl ar amser, gallai’r gweithdy hwn fod yn addas i chi. Pa un a ydych eisiau ysgrifennu erthyglau nodwedd, erthyglau teithio, colofnau barn, blogiau, cynnwys ar gyfer y we, deunydd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, gwaith cyfathrebu busnes – neu lyfr poblogaidd iawn hyd yn oed – bydd y gweithdy ysgrifennu ysbrydoledig hwn yn eich cynorthwyo i gyflymu eich ysgrifennu, cael gwared ar yr ymdrech a manteisio ar eich creadigrwydd mewnol.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Mewn un diwrnod, byddwch yn dysgu sut i:

• wneud ysgrifennu yn brofiad hwyliog

• ysgrifennu’n gynt ac yn fwy rhwydd

• meithrin hyder ac osgoi trafferthion ysgrifennu

• twyllo eich beirniad mewnol

• ysgrifennu mor naturiol ag yr ydych yn siarad

• defnyddio eich ymennydd ochr dde creadigol ac ymddiried ynddo

• ysgrifennu’n bwerus a pherswadiol

• cyfathrebu o’r galon a’r pen

• ysbrydoli ac ysgogi eich darllenwyr

Beth sydd angen imi ddod gyda mi?

Pen ysgrifennu a llyfr nodiadau fformat mawr (mae llyfr A4 gyda llinellau yn ddelfrydol) ar gyfer ysgrifennu. Rwy’n gofyn i bawb ysgrifennu gyda phen a phapur ar gyfer y gemau a’r ymarferion, er ei bod yn iawn defnyddio gliniadur ar gyfer eich prosiect terfynol os oes yn well gennych chi hynny.

Judi Goodwin

Rwy’n hyfforddwr ac yn hyfforddwr ysgrifennu sy’n byw ym Manceinion ac rwyf wedi treulio 30 mlynedd fel newyddiadurwr llawrydd, yn cyfrannu at The Daily Telegraph, y Radio Times, y Liverpool Post a Woman’s Hour y BBC. Am bum mlynedd, roeddwn yn olygydd comisiynu i gylchgrawn Ideal Home. Rwyf wedi cynnal hwn, fy hoff weithdy, ar gyfer CIPR, y Bank of England, The Big Issue a Lloyds Bank, yn ogystal ag ar gyfer carcharorion sydd yn y carchar am oes, pobl sydd â heriau iechyd meddwl, a phobl sydd ag AIDS a HIV.

Rwy’n hoffi defnyddio’r dull person cyfan yn fy hyfforddiant ac rwy’n credu bod pobl yn dysgu orau pan fyddant yn cael hwyl. Fy aseiniad mwyaf heriol oedd dysgu sgiliau cyfweld i newyddiadurwyr Rwmanaidd yn Bucharest. Nid oeddent hwy yn siarad unrhyw Saesneg; nid wyf fi’n siarad unrhyw Rwmaneg.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales