Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Cyflwyniadau gwych – y sgiliau i lwyddo gyda Matt Greenough

Pryd?

September / 9 / Iau  @  10:00 am  -  September / 9 / Iau  @  4:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £35.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £65.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £47.50
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £60.00
Di-breswylwyr Cymru £75.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Sylwch y bydd y cwrs hwn yn Saesneg

A ydych yn gwybod sut i gyfleu neges mewn cyfarfod tîm? A allwch chi draddodi araith a fydd yn annog eich cynulleidfa i weithredu? A yw eich dull cyfathrebu yn eich helpu i lwyddo, neu yn eich dal yn ôl?

O wneud cyflwyniad i’ch cyflogwr i siarad â chynulleidfa o gannoedd, ni fu hi erioed mor bwysig i gyfathrebu’n hyderus – a bellach mae disgwyl i ni wneud hyn mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau – ac eto mae’r sgiliau hyn yn cael eu hesgeuluso’n aml. Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i sicrhau eich bod yn cyfleu eich negeseuon yn y ffordd gywir. Byddwn yn rhoi’r hyder a’r technegau i chi sicrhau nad yw eich syniadau, eich arbenigedd na’ch gwybodaeth yn cael eu tanseilio gan sgiliau cyflwyno gwael.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs rhyngweithiol am ddiwrnod cyfan a fydd yn caniatáu i’r cyfranogwyr roi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith yn syth. Byddwch yn gweithio gyda chyn Uwch-gynghorwr Arbennig yn Llywodraeth Cymru, a byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol o fireinio eich negeseuon a pha ffordd yw’r un orau o ddylanwadu ar eich cynulleidfa.

Canlyniadau dysgu:

• Paratoi a ffordd o feddwl – creu’r sefyllfa ddelfrydol fel y gallwch roi cyflwyniad clir, cryno a pherswadiol.

• Dysgwch sut i reoli’r ystafell – gan edrych ar enghreifftiau llwyddiannus o wahanol sectorau, byddwn yn rhoi awgrymiadau i chi y gallwch ddechrau eu defnyddio heddiw.

• Gwelliant parhaus – byddwch yn derbyn arweiniad ac adnoddau i adeiladu ar yr hyn y gwnaethoch ei ddysgu yn ystod y dydd a byddwch yn cael cyfle i roi’r hyn a ddysgwyd gennych ar waith.

Ynghylch yr hyfforddwr

Mae Matt wedi gweithio fel Prif Gynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru cyn dechrau ei ymgynghoriaeth gyfathrebu ei hunan, Words Matter Cyf. Fel y cynghorydd uchaf yn y Llywodraeth, ei waith oedd cyfathrebu blaenoriaethau cymhleth a oedd yn cystadlu â’i gilydd yn fewnol i Weinidogion a’r Prif Weinidog a llunio negeseuon allanol ar gyfer y cyfryngau a rhanddeiliaid. Yn ystod ei yrfa mewn gwleidyddiaeth, ymdriniodd Matt â mwy o argyfyngau nag y mae’n dymuno eu cofio, wrth weithio gydag uwch wleidyddion a swyddogion i lunio strategaethau cyfathrebu. Mae’n parhau i ddysgu am gyfathrebu mewn argyfwng, llunio areithiau, technegau arweinyddiaeth a rheoli’r cyfryngau i arweinwyr y sector cyhoeddus ledled y DU. Fel hyfforddwr, mae’n dibynnu’n fawr ar brofiadau gwirioneddol o weithio mewn amgylchedd gwleidyddol dan bwysau mawr ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod gwerth ymarferol gwirioneddol i’r cyrsiau ar gyfer y cyfranogwyr.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales