Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Creu gwefan neu bortffolio personol

Pryd?

Chwefror / 18 / Gwe  @  10:00 am  -  Chwefror / 18 / Gwe  @  1:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £30.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £25.00
Di-breswylwyr Cymru £35.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Beth yw testun y gweithdy?

Fel gweithiwr llawrydd creadigol, bydd angen gwefan arnoch chi sy’n arddangos eich sgiliau, gwasanaethau neu bortffolio. Pam? Oherwydd mae’n eich gwneud yn fwy gweledol ar-lein a dyma yw’r peth cyntaf y bydd nifer o gleientiaid neu gwsmeriaid posibl yn edrych amdano.

Cyn i chi frwydro gyda llunwyr a darparwyr safleoedd, bydd angen ichi wybod pa gynnwys a fydd yn creu’r argraff gywir. Rydych yn gwybod beth yw eich cryfderau – ond sut rydych yn eu newid yn eiriau a lluniau sy’n edrych yn dda ac y gellir eu canfod ar-lein?

Yn ystod bore o hyfforddiant, byddwn yn cyfyngu ar ochr dechnegol llunio gwefan, gan ddefnyddio offeryn ar-lein am ddim i adeiladu eich proffil a safle syml, cam wrth gam.

Gallwch fynd yn fyw gyda’ch safle hyfforddi, neu addasu’r strwythur i unrhyw lwyfan gwefannau, gan gynnwys WordPress neu Wix.

Nodyn: Mae’r gweithdy hwn yn cyd-fynd â gweithdy Cyflwyniad i WordPress Hyfforddiant NUJ Cymru, canllaw hanner diwrnod i ddechreuwyr ar lunio safle gyda llwyfan gwefannau mwyaf poblogaidd y byd.

Bydd pecyn cymorth PDF o awgrymiadau, offer ac adnoddau yn cael ei rannu yn ystod y gweithdy.

 

I bwy y mae’r gweithdy?

Llunwyr cynnwys, gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol cyfathrebu sy’n dymuno sefydlu eu brand personol ar-lein. Nid oes angen profiad o lunio gwefan na chodio.

 

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Yn ystod y tair awr o hyfforddi, byddwch yn dysgu sut i:

  • Cadarnhau eich arbenigedd a’ch amcanion
  • Nodi eich cynulleidfa (a’r hyn y maent yn chwilio amdano ar-lein)
  • Pennu steil y brand gan ddefnyddio lliw, ffontiau, logo, geiriau allweddol a goslef
  • Canfod yr enw parth cywir
  • Cynnwys y ‘blociau’ cynnwys hanfodol o fewn gwefan bersonol, gwasanaeth neu bortffolio un dudalen
  • Canfod a dewis lluniau
  • Defnyddio geiriau allweddol i optimeiddio’r testun ar gyfer chwilotwyr

 

Pa gyfarpar fydd ei angen arnaf?

Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt rhyngrwyd cryf. Nid yw’n bosibl cwblhau’r gweithdy hwn gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen.

Bydd y gweithdy’n cael ei ddarparu ar Zoom a bydd yn ofynnol i’r cyfranogwyr gofrestru o flaen llaw gyda llwyfan gwefannau am ddim (bydd y manylion yn cael eu cynnwys gyda’r cyfarwyddiadau ymuno). Mae’n bosibl y bydd angen i chi gofrestru gydag offer eraill ar-lein ar y diwrnod, felly mae’n bosibl y bydd angen mynediad hawdd i’ch e-bost i gadarnhau’r cofrestriad.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales