Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Offer digidol cyflym ac am ddim ar gyfer newyddiadurwyr a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol – gyda Dan Mason

Beth yw pwnc y gweithdy?

Fel gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol, rydym oll yn wynebu’r un her: gormod i’w wneud a dim digon o amser i’w wneud. Rydym yn gwybod bod llwyfannau ar-lein ac apiau ar ffonau symudol ar gael i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo, y cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchiant, cyllid a mwy, ond ble mae dechrau pan fydd chwilio ar Google yn cyflwyno cymaint o ddewis?

Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn yn canolbwyntio ar ambell offeryn a dull sydd wedi’u profi sy’n cynorthwyo i gynhyrchu canlyniadau ar gyllideb fechan. Gallwch ei ystyried fel bwydlen flasu ddigidol. Wrth gwrs, mae gan bob gweithiwr proffesiynol creadigol ei hoff lwyfannau a dulliau gweithio, felly bydd amser i gyfnewid offer a syniadau hefyd. Bydd pecyn cymorth ar-lein gyda dolenni i’r offer a gyflwynir yn ystod y gweithdy (a mwy) yn cael ei rannu ar y diwrnod. I’w gadw’n syml, mae’r holl offer sydd wedi’u cynnwys am ddim (rhai gyda dewisiadau ar bremiwm) ac maent yn hawdd i’w defnyddio.

I bwy y mae’r gweithdy?

Newyddiadurwyr, gweithwyr cyfathrebu a chreadigol proffesiynol, yn enwedig gweithwyr llawrydd, gan gynnwys ysgrifenwyr, cerddorion, actorion a ffotograffwyr. Mae croeso i lunwyr cynnwys sy’n gweithio gyda sefydliadau corfforaethol, elusennol neu gymunedol hefyd. Bydd y cyfranogwyr yn defnyddio porwr rhyngrwyd bob dydd.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn canolbwyntio ar ychydig o ddulliau craidd ac offer defnyddiol, gydag eraill sydd ar gael drwy becyn cymorth ar-lein a rennir. Bydd gofyn i’r cyfranogwyr gofrestru gyda rhaglenni cwmwl a ddewiswyd a’u defnyddio yn ystod y gweithdy. Yn ystod y gweithdy tair awr, bydd y cyfranogwyr yn rhoi tro ar offer ar gyfer:

  • Darllen. Offer ar gyfer dilyn a darllen newyddion, pynciau a ffynonellau ar-lein
  • Ysgrifennu. Offer ar gyfer ysgrifennu, gwirio sillafu, cyhoeddi a rhannu
  • Chwilio. Ffynonellau da ar gyfer lluniau stoc, cerddoriaeth, eiconau a mwy am ddim
  • Trefnu. Sut i greu pecyn cymorth ar-lein yn Google Chrome, gan gynnwys dolenni ac ‘estyniadau’ ar gyfer rheoli cyfarfodydd, cyfrineiriau, golygu lluniau , sgrinledu a mwy
  • Llunio cynnwys. Offer ar-lein cyflym ar gyfer golygu lluniau, fideos a sain
  • Rhwydweithio a hyrwyddo. Offer ar gyfer portffolios, llofnodion e-bost, cylchlythyrau, cydweithredu a rheoli prosiectau, yn ogystal â chomisiynau i weithwyr llawrydd.

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?

  • Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda phorwr Chrome wedi’i osod (a heb gyfyngiadau wal tân corfforaethol sy’n atal mynediad i wefannau, lawrlwytho a chofrestru). Nid yw’r gweithdy’n cael ei argymell i’r rheini sy’n defnyddio ffôn clyfar neu lechen yn unig.
  • Cyfeiriad Gmail. Bydd gwahoddiad ichi gofrestru gydag offer ar-lein ar y diwrnod, felly mae’n bosibl y bydd mynediad hawdd i’ch cyfrif e-bost yn angenrheidiol i gadarnhau’r cofrestriad.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG