Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Newyddiaduraeth Data gyda Aiden O’Donnell

Mae’r we wedi agor byd newydd o wybodaeth a data i newyddiadurwyr y gellid eu defnyddio i ganfod a dilysu storïau. Mae ein cwrs undydd yn gyflwyniad hanfodol i’r maes newydd hwn, sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’r cyfranogwyr ymdrin â data fel ffynhonnell newyddiadurol.

Ein tiwtor arbenigol yw Aidan O’Donnell o Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Bydd yn cwmpasu ble i ganfod data, sut i’w paratoi, sut i’w cwestiynu a sut i gyfleu unrhyw ganfyddiadau newyddiadurol sy’n deillio ohonynt.

Byddwn yn gweithio gyda setiau data gwirioneddol ac yn rhoi’r dulliau i’r cyfranogwyr naill ai integreiddio’r data i mewn i’r gwaith a wnânt eisoes neu ehangu’r math o waith a wnânt drwy ddefnyddio data fel ffynhonnell. Bydd y cwrs hefyd yn cyflwyno technegau datblygedig i’r cyfranogwyr ac yn dangos sut y gallant adeiladu ar y sgiliau y maent wedi’u dysgu ar y cwrs hwn. Mae angen ymwybyddiaeth sylfaenol o gyfrifiaduron er mwyn llywio a thrafod adnoddau ar y we.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG