Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Gwirio ffeithiau ar gyfer Newyddion a Chyfathrebu gyda Ahmed Elsheikh

Ynghylch y cwrs:

Mae newyddion ffug yn broblem gynyddol ledled diwydiant y cyfryngau, gyda chyhoeddwyr newyddion a thimau cyfathrebu ill dau yn cael eu twyllo gan gamhysbwysrwydd a thwyllwybodaeth. Yn y cwrs hwn, mae’r newyddiadurwr ymchwiliol a’r arbenigwr ar newyddion ffug, Ahmed Elsheikh, yn cyflwyno’r dulliau digidol sydd eu hangen arnoch i’ch cynorthwyo i adnabod a threchu twyllwybodaeth.

Mae’r cwrs yn cyflwyno cyfres lawn o ddulliau dilysu ar-lein am ddim ar gyfer newyddiadurwyr a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol sydd angen dilysu ffynonellau, a chadarnhau’r wybodaeth a’r ffeithiau mewn adroddiadau newyddion, e-byst, ffotograffau, fideos neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddynt wneud eu gwaith. Bydd y cwrs yn egluro sut y gellir camddefnyddio gwybodaeth, lluniau a fideos ac yn darparu cyfres o apiau, adnoddau a phrosesau i’ch cynorthwyo i ganfod beth sy’n digwydd mewn gwirionedd.

Yng ngoleuni digwyddiadau diweddar yn arbennig, ni fu cadarnhau honiadau neu adroddiadau fyth mor bwysig.

Mae hwn yn weithdy ymarferol ar Zoom, lle bydd yr hyfforddeion yn cymryd rhan mewn prosiectau ac yn derbyn adborth. Bydd angen i bob hyfforddai gael mynediad at gyfrifiadur a ffôn clyfar yn ystod y cwrs.

Prif bynciau:

  • Dulliau cadarnhau am ddim ar-lein.
  • Dulliau cyflym o gadarnhau – defnyddio ffôn clyfar i gadarnhau.
  • Canfod ffynonellau gwreiddiol lluniau a fideos.
  • Defnyddio Twitter a Facebook ar gyfer storïau newyddion.
  • Cadarnhau lleoliadau fideos a newyddion.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd yr hyfforddeion yn gallu:

  • Adnabod a chadarnhau lluniau sydd wedi’u haddasu.
  • Adnabod fideos sydd wedi’u ffugio.
  • Cyrraedd a gweld lleoliadau daearyddol cywir drwy’r we.
  • Hidlo diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol wrth ymdrin â newyddion sy’n torri.

Ynghylch yr hyfforddwr, Ahmed Elsheikh:

Mae Ahmed yn Ymgynghorydd y Cyfryngau Digidol gyda Mediamise Consultancies (www.mediamise.co.uk) ac ef yw Dirprwy Gadeirydd Cyngor Aelodau Du yr NUJ. Mae’n gyn Uwch Newyddiadurwr Darlledu gyda’r BBC, ac mae’n darparu cyrsiau i BBC Media Action, y Thomson Foundation a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae ganddo Radd Meistr yn y Cyfryngau Cymdeithasol gan Brifysgol San Steffan yn Llundain.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG