Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Goroesi a Ffynnu fel gweithiwr llawrydd gyda David Thomas

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi rhoi nifer o weithwyr llawrydd – sydd eisoes yn gweithio mewn amgylchedd y cyfryngau sy’n newid yn gyflym heb unrhyw warant o ‘swydd’ yn y diwydiant – mewn sefyllfa fwy bregus nag erioed.

Bydd y gweminar hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o weithio fel gweithiwr llawrydd – o’r rheini sy’n newydd i’r diwydiant neu sy’n ystyried mynd yn weithwyr llawrydd, i’r rhieni a fu’n gweithio yn y maes ers nifer o flynyddoedd – ac yn eich helpu i feithrin gwytnwch ac effeithlonrwydd yn eich gwaith. Bydd hefyd yn mynd i’r afael â’r newidiadau cyflym a’r heriau mewn gwaith llawrydd, ac yn edrych ar sut y gellid troi heriau, gan gynnwys y pandemig Coronafeirws, yn gyfleoedd.

Bydd y gweminar hefyd yn rhoi diweddariad gwerthfawr ynghylch y cymorth ariannol diweddaraf sydd ar gael i weithwyr llawrydd sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig Coronafeirws. Bydd gwybodaeth ar gael i’r rheini sy’n unig fasnachwyr, y rheini sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain, a’r rheini sy’n ennill rhan o’u hincwm drwy’r cynllun Talu Wrth Ennill.

I bwy y mae’r gweithdy?

Bydd y cyfranogwyr yn weithwyr llawrydd profiadol, yn newydd i weithio’n llawrydd yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig newyddiaduraeth, neu’n dymuno bod yn weithiwyr llawrydd.

Ni fydd yn angenrheidiol cael unrhyw brofiad o weithio’n llawrydd ond bydd y gweithdy yn ddiweddariad defnyddiol ar gyfer gweithwyr llawrydd mwy profiadol (gan gynnwys newyddiadurwyr sy’n cynnig gwaith cysylltiadau cyhoeddus/cyfathrebu fel rhan o’u portffolio llawrydd).

Bydd y gweminar yn:

  • Helpu’r cyfranogwyr i ennyn dealltwriaeth o elfennau ymarferol y bywyd llawrydd
  • Darparu awgrymiadau a dulliau ar gyfer cynllunio ariannol gwell a rhwydweithio effeithiol
  • Annog myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol i rannu eu profiadau a’u pryderon

Bydd y sesiwn hwn yn edrych ar:

  • Sgiliau ariannol ar gyfer gweithwyr llawrydd – sut i gyllidebu; gwahanu eich bywyd proffesiynol oddi wrth eich bywyd personol
  • Gwahanol fathau o daliadau llawrydd – y cynllun Talu Wrth Ennill, Unig Fasnachwr, Cwmni Cyfyngedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr llawrydd
  • Newidiadau i’r ddarpariaeth ariannol ar gyfer gweithwyr llawrydd o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws
  • Cadw cofnodion heb wastraffu amser – a goblygiadau trethu digidol newydd HMRC
  • Sut i gyflwyno syniadau am waith a chytuno arno
  • Sut i holi am daliadau
  • Sut i gynllunio eich gwaith rhwydweithio yn ddigidol wrth ynysu

Beth y byddwch yn ei ddysgu:

Yn dilyn y gweithdy, bydd gan y cyfranogwyr syniad mwy eglur o sut i drefnu eu hunain a chynllunio er mwyn meddwl fel busnes. Byddant yn deall pwysigrwydd cadw cofnodion da, a’r goblygiadau treth ac Yswiriant Gwladol. Byddant yn dysgu am oblygiadau ariannol y pandemig Coronafeirws.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG