Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Cwrs 2 ddiwrnod – Cyfraith y Cyfryngau gyda David Banks

Diwrnod 1

Cyflwyniad/cwrs gloywi ar gyfraith y cyfryngau sy’n cwmpasu’r pynciau a ganlyn:

  • Enllib
  • Athrod
  • Anwiredd Maleisus
  • Dirmyg Llys
  • Cyfyngiadau ar adrodd ynghylch Llysoedd Ynadon
  • Cyfyngiadau ar adrodd ynghylch llysoedd plant ac ieuenctid
  • Cwestau
  • Mynediad i’r llysoedd a herio gorchmynion llys
  • Cyfreithiau sy’n ymwneud â throseddau rhywiol
  • Preifatrwydd a chyfrinachedd
  • Diogelu Data
  • Hawlfraint
  • Y cyfryngau cymdeithasol
  • Codau moesegol ar gyfer newyddiadurwyr print a darlledu

Diwrnod 2

Mae hwn yn weithdy sy’n adeiladu ar Ddiwrnod 1 a bydd yn cael ei rannu’n ddau. Darlledu yn y bore a phrint ac ar-lein yn y prynhawn.

Bydd yr ymgeiswyr yn gweithio’n unigol ac mewn grwpiau i fynd i’r afael â chyfres o sefyllfaoedd sy’n cynyddu mewn cymhlethdod, yn cynnwys agweddau amrywiol ar y gyfraith a moesoldeb.

Ar ddiwedd pob sefyllfa, bydd ôl-drafodaeth mewn grŵp i archwilio’r materion cyfreithiol yn fanwl.

Nod y diwrnod yw galluogi’r rheini sy’n mynychu’r cwrs i roi’r gwersi a ddysgwyd ar ddiwrnod un ar waith mewn sefyllfaoedd ‘gwirioneddol’, a fydd yn gwella eu sgiliau gwneud penderfyniadau mewn amgylchedd cyfryngau cymhleth sy’n symud yn gyflym.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal am 9.30-12.30yp a 1.30-4.30yp.

Ynghylch yr hyfforddwr – David Banks. Mae David yn newyddiadurwr gyda 24 mlynedd o brofiad ac mae’n cynnal cwrs Hyfforddiant NUJ Cymru ar Gyfraith a Moesoldeb y Cyfryngau. Mae’n ymgynghorydd ar y cyfryngau sy’n darparu hyfforddiant i amrywiaeth o gyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol, cyrff anllywodraethol, llywodraethau, elusennau, cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus, prifysgolion a’r heddlu. Mae’n hyfforddwr sydd wedi llunio a rheoli cyrsiau llwyddiannus mewn newyddiaduraeth, cyfraith y cyfryngau a newyddiaduraeth gynhyrchu.

Ef oedd cyd-awdur y 18fed, 19eg ac 20fed cyfrol o McNae’s Essential Law for Journalists. Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd am y gyfraith a’r cyfryngau yn The Guardian, The Mirror a The Independent. Mae’n cyfrannu’n aml ar raglenni teledu a radio’r BBC.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG