gyda Dan Mason
Beth yw cynnwys y cwrs?
Nid dim ond bodau dynol sy’n ymweld â’ch safle. Mae chwilotwyr yn ei astudio hefyd, gan gymryd gwybodaeth sy’n cynorthwyo eich safle neu eich stori i gael eu canfod ar-lein.
Felly, beth y mae chwilotwyr fel Google yn edrych amdano a beth y gallwn ei wneud i’w cynorthwyo i’n helpu ni i ddenu mwy o ymwelwyr?
Byddwn yn dechrau gydag adolygiad syml o’ch gwefan (neu unrhyw wefan a ddewiswch), gan ddefnyddio offer syml i amlygu gwelliannau. Byddwn yn edrych ar bwysigrwydd geiriau allweddol, dolenni, teitlau, cyflymder y safle ac optimeiddio lluniau. Byddwn hefyd yn edrych ar sut i ychwanegu teitlau, dolenni a lluniau i storïau yn y ffordd gywir, ac yn eich cynorthwyo â fideos a sut i wneud eich gwefan yn haws i’w chanfod.
Byddwch yn gadael gyda rhestr wirio ddefnyddiol, dolenni i adnoddau ac offer am ddim a hawdd i lansio eich taith i optimeiddio eich gwefan ar chwilotwyr.
I bwy y mae’r cwrs?
Pobl greadigol sydd â’u gwefannau eu hunain neu’r rheini sy’n rheoli gwefan. Mae’r sesiwn flasu hon wedi’i hanelu at ddechreuwyr. Nid oes angen profiad blaenorol o optimeiddio chwilotwyr neu reoli gwefannau.
Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?
Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt dibynadwy â’r rhyngrwyd neu fynediad i Zoom.