Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Cyflwyniad i WordPress

Pryd?

April / 27 / Mer  @  10:00 am  -  April / 27 / Mer  @  1:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £30.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £25.00
Di-breswylwyr Cymru £35.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Beth yw cynnwys y gweithdy?

Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn yn cwmpasu manylion WordPress, i’r rheini sy’n newydd i’r llwyfan (neu wedi rhoi tro arno ac wedi profi trafferthion ar y ffordd!)

Wrth lunio safle WordPress.com syml ac am ddim, byddwch yn dysgu am themâu, addasu, llywio, teclynnau, delweddau cyflwyno a sut i lunio tudalen gyda blociau Gutenberg. Mae’r hyfforddiant yn cwmpasu’r opsiynau ar gyfer llwytho storïau, delweddau a chynnwys amlgyfrwng gan gynnwys fideo a sain.

Bydd cyflwyniad hefyd i’r broses o fynd â’ch safle WordPress am ddim i’r lefel nesaf, gan gynnwys cynnal gwefan, themâu premiwm, dewis lluniwr gwefan ac ategion ar gyfer cyflymder ac effeithlonrwydd y safle ac optimeiddio chwilotwyr.

Nodyn: Mae’r gweithdy yn cyd-fynd â gweithdy Creu gwefan neu bortffolio personol Hyfforddiant NUJ Cymru, sy’n rhoi cipolwg o’r cynnwys y bydd ei angen arnoch ar gyfer llunio safle brand personol, gwasanaeth neu bortffolio.

Bydd pecyn cymorth PDF o argymhellion, offer ac adnoddau yn cael ei rannu yn ystod y gweithdy.

 

I bwy y mae’r gweithdy?

Mae’r gweithdy lefel dechreuwr hwn wedi’i anelu at lunwyr cynnwys, gweithwyr llawrydd a gweithwyr proffesiynol cyfathrebu sy’n dymuno dechrau defnyddio WordPress i gynhyrchu gwefan bersonol, portffolio neu flog. Nid oes angen profiad blaenorol o WordPress, llunio gwefan na chodio.

 

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Yn ystod tair awr o hyfforddiant, byddwch yn dysgu sut i:

  • Ymgyfarwyddo â dangosfwrdd a gosodiadau WordPress
  • Dewis a gweithredu themâu
  • Addasu’r gosodiadau gan gynnwys strwythurau URL a hunaniaeth safle
  • Creu dewislen lywio gyda dolenni mewnol ac allanol
  • Defnyddio golygydd blociau Gutenberg
  • Llwytho cynnwys i neges WordPress, gydag optimeiddio chwilotwyr mewn golwg
  • Ychwanegu cyfryngau amrywiol fel fideos YouTube
  • Optimeiddio a llwytho delweddau i lyfrgell cyfryngau WordPress
  • Datblygu eich safle ymhellach drwy gyflwyno opsiynau uwchraddio neu gynnal
  • Gosod ategion a themâu premiwm ar safle a gyflwynir gan WordPress

 

Pa gyfarpar fydd ei angen arnaf?

Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chyswllt rhyngrwyd cryf. Nid yw’n bosibl cwblhau’r gweithdy hwn gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen.

Bydd y gweithdy’n cael ei ddarparu ar Zoom a bydd yn ofynnol i’r cyfranogwyr gofrestru o flaen llaw ar gyfer cyfrif am ddim yn wordpress.com (bydd y manylion yn cael eu cynnwys gyda’r cyfarwyddiadau ymuno).

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales