Reporting on Poverty in Wales
A joint JOMEC*, NUJ Training Wales** and Exploring the Narrative Coalition*** event
8 November 2018, 11-2.30pm, JOMEC, Central Square, Cardiff
Hidden poverty is on the rise; so if it’s harder to see, is it harder to report?
Today nearly one in four people in Wales live in poverty. A combination of cuts, rising costs and poor quality jobs mean that more and more of us are trying to keep the wolf from the door. Yet poverty is not always easy to see. You can have a smartphone but no money to feed your family. You can be holding down a job but sofa surfing. You can be smartly dressed but riddled with worry and debt.
What is the media’s role in reporting this poverty accurately? How can reporters find individuals who are willing to share their stories in today’s digital world which opens the door to judgement and abuse? What safeguarding measures should the media take when working with vulnerable people? And what role do charities and anti-poverty organisations play in getting individual stories out there to raise awareness of the wider problem?
Reporting on Poverty will tackle these challenging questions head on, hear directly from people with lived experience of poverty who have worked with the media, and provide a space for frank and honest discussion. It will be an invaluable opportunity for journalists, media organisations, public bodies and the Welsh third sector.
This event is linked to the forthcoming publication of a Cardiff School of Journalism, Media and Cultural Studies research project report: Exploring the News Media Narrative on Poverty in Wales, commissioned by the Exploring the Narrative Coalition. A link to more information and to download a copy will be posted here as soon as it is published
For more information please contact Richard Speight at NUJ on [email protected] /
07877279163
*Cardiff School of Journalism, Media and Cultural Studies
** NUJ Training Wales is funded by the Welsh Government’s Wales Union Learning Fund.
***Exploring the Narrative Coalition members are: Oxfam Cymru, Save the Children, Street Games Wales, The Church in Wales, Cymorth Cymru, The Muslim Council of Wales, Christian Aid, Community Housing Cymru, Tai Pawb and the Welsh Council for Voluntary Action.
_____
Gohebu ar Dlodi yng Nghymru
Digwyddiad ar y cyd rhwng JOMEC** ac Exploring the Narrative Coalition***
8 Tachwedd 2018, 11-2.30pm, JOMEC, Sgwâr Canolog, Caerdydd
Mae tlodi cudd ar gynnydd; felly os yw’n anos ei weld, a yw’n anos gohebu arno?
Heddiw, mae bron i un ym mhob pedwar o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae cyfuniad o doriadau, costau cynyddol a swyddi ansawdd gwael yn golygu bod mwy a mwy ohonom yn ceisio cadw’r blaidd rhag y drws. Ond nid yw tlodi’n hawdd ei weld bob amser. Mae’n bosib i rywun fod â ffôn clyfar ond ddim arian i fwydo ei deulu. Mae’n bosib i rywun fod â swydd ond yn cysgu ar soffa yn nhŷ rhywun arall. Mae’n bosib i rywun fod wedi gwisgo’n smart ond yn llawn gofid ac mewn dyledion mawr.
Beth yw rôl y cyfryngau wrth ohebu’n gywir ar y tlodi hwn? Sut y gall gohebwyr ddod o hyd i unigolion sy’n fodlon rhannu eu straeon yn y byd digidol sydd ohoni, sy’n agor y drws i feirniadaeth a sarhad? Pa fesurau diogelwch y dylai’r cyfryngau eu cymryd wrth weithio gyda phobl fregus? A pha rôl y mae elusennau a sefydliadau gwrthdlodi yn ei chwarae o ran rhannu straeon unigolion er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r broblem ehangach?
Bydd Gohebu ar Dlodi yn mynd i’r afael â’r cwestiynau heriol hyn, yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi cael profiad o dlodi eu hunain ac wedi gweithio gyda’r cyfryngau, ac yn cynnig llwyfan ar gyfer trafodaeth onest ac agored. Bydd yn gyfle amhrisiadwy i newyddiadurwyr, sefydliadau’r cyfryngau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad hwn yn gysylltiedig â’r adroddiad ar brosiect ymchwil Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd a gaiff ei gyhoeddi’n fuan: Archwilio naratif y cyfryngau newyddion ar dlodi yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Gynghrair Archwilio’r Naratif. Bydd linc at ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho copi yn cael ei bostio yma cyn gynted ag y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Richard Speight yn NUJ: [email protected]/
07877279163
*Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd
** Ariennir Hyfforddiant NUJ Cymru gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru.
***Aelodau Exploring the Narrative Coalition yw: Oxfam Cymru, Achub y Plant, Street Games Wales, yr Eglwys yng Nghymru, Cymorth Cymru, Cyngor Mwslimiaid Cymru, Cymorth Cristnogol, Cartrefi Cymunedol Cymru, Tai Pawb a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.