Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Skills Network – Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Diogelwch y Rhyngrwyd

Pryd?

June / 14 / Maw  @   -  Mawrth / 31 / Gwe  @ 

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £Rhad ac am ddim
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £20.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Datblygiad Proffesiynol Parhaus – Egwyddorion Diogelwch y Rhyngrwyd 

Trosolwg o’r Cwrs 

Gyda thros 65 miliwn o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y DU yn unig, ni fu gwybod sut i aros yn ddiogel ar-lein fyth yn fwy pwysig. P’un a ydych yn unigolyn sy’n dymuno cynyddu eich gwybodaeth am resymau personol neu broffesiynol, neu’n gyflogwr sy’n edrych am hyfforddiant diogelwch ar y rhyngrwyd ar gyfer eich staff, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol.  

Mae’n berthnasol i holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd, yn enwedig rhieni a gofalwyr, staff ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, lleoliadau addysg, ac ati, a bydd ein cwrs Egwyddorion Diogelwch y Rhyngrwyd ar-lein a ardystiwyd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth i chi. Fe’i dyluniwyd i amlygu meysydd arbennig sy’n peri pryder i ddefnyddwyr y rhyngrwyd, fel rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein a’r posibilrwydd y cewch eich annog i feithrin perthynas amhriodol ar-lein, a bydd yn cynyddu eich ymwybyddiaeth o beth yw’r peryglon wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.   

 

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales