Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Cyfathrebu mewn Argyfwng gyda Matt Greenough

Pryd?

Chwefror / 16 / Mer  @  10:00 am  -  Chwefror / 16 / Mer  @  4:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £35.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £30.00
Di-breswylwyr Cymru £50.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Yn ystod unrhyw argyfwng, mae’n hanfodol cyfathrebu’n glir a chydag argyhoeddiad. Fel y mae’r pandemig Covid-19 wedi ei ddangos i ni, gall sut rydym yn cyfathrebu â’n gilydd fod yn fater o fywyd a marwolaeth. Mae dulliau llywodraethau a sefydliadau sy’n newid yn dangos y gall technegau cyfathrebu gwahanol gael effaith uniongyrchol ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.

Ni waeth pa mor rhagorol rydym yn trefnu, a pha mor drylwyr rydym yn paratoi, byddwn bob tro’n cael ein herio gan yr annisgwyl – digwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Dyna pryd y mae angen i’n sgiliau arwain a’n cynlluniau cyfathrebu mewn argyfwng ddisgleirio.

Dyluniwyd y cwrs hwn i herio eich barn ynghylch pa ffordd yw’r un orau o ymdrin ag argyfwng. Byddwn yn cwmpasu pwysigrwydd cynllunio a bod yn drefnus; arweinyddiaeth a gonestrwydd; a’r defnydd o iaith a sut i ymdrin â’r cyfryngau. Byddwn yn dysgu ar sail enghreifftiau gwirioneddol a bydd natur ryngweithiol y cwrs yn caniatáu i bobl gydweithio i ddatrys problemau.

Ynghylch yr hyfforddwr

Mae Matt wedi gweithio fel Prif Gynghorydd Arbennig yn Llywodraeth Cymru cyn dechrau ei ymgynghoriaeth gyfathrebu ei hunan, Words Matter Cyf. Fel y cynghorydd uchaf yn y Llywodraeth, ei waith oedd cyfathrebu blaenoriaethau cymhleth a oedd yn cystadlu â’i gilydd yn fewnol i Weinidogion a’r Prif Weinidog a llunio negeseuon allanol ar gyfer y cyfryngau a rhanddeiliaid. Yn ystod ei yrfa mewn gwleidyddiaeth, ymdriniodd Matt â mwy o argyfyngau nag y mae’n dymuno eu cofio, wrth weithio gydag uwch wleidyddion a swyddogion i lunio strategaethau cyfathrebu. Mae’n parhau i ddysgu am gyfathrebu mewn argyfwng, llunio areithiau, technegau arweinyddiaeth a rheoli’r cyfryngau i arweinwyr y sector cyhoeddus ledled y DU. Fel hyfforddwr, mae’n dibynnu’n fawr ar brofiadau gwirioneddol o weithio mewn amgylchedd gwleidyddol dan bwysau mawr ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod gwerth ymarferol gwirioneddol i’r cyrsiau ar gyfer y cyfranogwyr.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales