Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Sut i lansio cylchlythyr e-bost

Pryd?

November / 10 / Mer  @  10:00 am  -  November / 10 / Mer  @  1:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £15.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £30.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £20.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £25.00
Di-breswylwyr Cymru £35.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

Beth yw’r cwrs?

Mae’n ymddangos bod pawb yn siarad am gylchlythyrau e-bost. Ond beth yw’r holl ffwdan dros rywbeth sydd wedi bodoli ers blynyddoedd? A sut ydych chi’n lansio cylchlythyr? Mae’n amser canfod yr atebion…

Mae’r gweithdy ymarferol hwn ar Zoom yn canolbwyntio ar gylchlythyron gydag arddull golygyddol, gyda chynnwys gwreiddiol neu wedi’i guradu sy’n apelio at gynulleidfa arbenigol darged.

O ddewis enw ac arddull, i gyhoeddi eich cylchlythyr gan ddefnyddio llwyfannau fel Substack neu Revue, bydd y cwrs hanner diwrnod yn rhoi’r dulliau, yr awgrymiadau a’r technegau i chi allu lansio cylchlythyr yn hyderus. Bydd hefyd yn cynnwys dulliau ar gyfer trefnu a chreu cynnwys, bodloni’r rheoliadau GDPR a hyrwyddo eich cylchlythyr er mwyn sicrhau dilyniant tanysgrifwyr ffyddlon.

Sesiwn adborth AM DDIM yn gynwysedig. Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn yn rhoi’r dulliau i chi lansio eich cylchlythyr. Ond rydym yn gwybod y bydd gennych gwestiynau wrth i chi fynd amdani. Ymunwch â sesiwn adborth ‘caffi cylchlythyrau’ anffurfiol gyda’r hyfforddwr Dan Mason wythnos ar ôl y gweithdy i gael adborth ar gynnwys, copi a syniadau eich cylchlythyr.

 

I bwy y mae’r cwrs?

Gweithwyr llawrydd creadigol a’r rheini sy’n gweithio yn sectorau’r cyfryngau, y gymuned, y llywodraeth neu elusennau. Bydd yr hyfforddiant yn gweddu i’r rheini sy’n rhan o’r broses o lunio cynnwys ar gyfer cynulleidfa fewnol neu gyhoeddus. Nid oes angen unrhyw brofiad newyddiadurol penodol.

 

Dyddiad ac Amser

Gweithdy: Dydd Mercher 10 Tachwedd, 2021. Rhwng 10yb ac 1yp.

Sesiwn adborth Caffi Cylchlythyron dewisol ar gyfer cyfranogwyr y gweithdy yn unig: TBC. Ymunwch ar unrhyw adeg rhwng 12yp ac 2yp.

 

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Yn ystod bore o hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu sut i:

  • Bennu cynulleidfa ac arddull cynnwys eich cylchlythyr
  • Cofrestru gyda llwyfan cylchlythyrau am ddim fel Revue a llywio drwyddo.
  • Edrych ar greu cynnwys ar gyfer cylchlythyron
  • Canfod a golygu lluniau sy’n cynorthwyo i wneud i’ch cylchlythyr ddisgleirio
  • Archwilio dulliau o lunio llinellau pwnc a chyn-benawdau
  • Deall optio i mewn dwbl a chydymffurfiaeth syml â GDPR
  • Deall sut y mae cylchlythyron yn cysylltu â thudalennau glanio gwefannau a ffurflenni tanysgrifio
  • Hyrwyddo eich cylchlythyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • Cymryd y cam nesaf … tuag at danysgrifiadau â thâl

Mae’r hyfforddiant yn dilyn dull cam wrth gam syml sydd wedi’i gynnwys mewn pecyn cymorth PDF ar-lein sy’n cyd-fynd â’r hyfforddiant.

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?

Dim byd arbennig. Bydd angen gliniadur neu gyfrifiadur desg arnoch chi gyda mynediad at Zoom ac i chi gofrestru â llwyfan cylchlythyrau e-bost am ddim.

Ynghylch yr hyfforddwr

Mae Dan Mason yn hyfforddi’n rheolaidd gyda Hyfforddiant NUJ Cymru, gyda chyrsiau poblogaidd gan gynnwys fideos ffonau symudol, podlediadau ac adrodd storïau ar y cyfryngau cymdeithasol. Bu’n newyddiadurwr a golygydd am dros 40 mlynedd, ac mae wedi treulio’r ddegawd ddiwethaf yn gweithio mewn dros 30 o wledydd fel hyfforddwr sy’n arbenigo yn y cyfryngau symudol a digidol sy’n cael effaith gymdeithasol gadarnhaol. Mae Dan yn cynhyrchu cylchlythyr o’r enw Useful Stuff for Storytellers

 

(ON: Dolen i gylchlythyr Dan os oes angen: https://www.getrevue.co/profile/masondan)

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales