Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Dechrau gweithio fel gweithiwr llawrydd with SA Mathieson

Gall newid i weithio fel newyddiadurwr llawrydd ymddangos yn frawychus. Dyluniwyd y cwrs undydd hwn i helpu’r rheini sy’n ystyried mynd yn weithiwr llawrydd neu sydd wedi gwneud hynny’n ddiweddar.

Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o gamau cyntaf bod yn weithiwr llawrydd…

Bydd yn rhoi cyngor ymarferol i chi ynghylch eich camau cyntaf fel gweithiwr llawrydd, gan gynnwys sut i ennill gwaith a negodi telerau. Byddwch yn canfod yr hyn y mae angen ichi ei wneud i symud o’ch comisiwn llawrydd cyntaf i’ch taliad cyntaf; yn meddwl am syniadau ac yn eu cyflwyno; ac yn dysgu am ffyrdd o ofyn am ragor o arian.

Mae’r cwrs, sy’n seiliedig ar ddau gwrs undydd sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd ar gyfer yr NUJ yn genedlaethol, hefyd yn cynnwys cyngor ynghylch edrych ar ôl eich iechyd, creu swyddfa, TG, marchnata, pensiynau a syniadau ynghylch sut i ddatblygu eich busnes llawrydd unwaith y bydd wedi’i sefydlu.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG