Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Llunio araith gyda Matt Greenough

Mae areithiau da yn bwysig. Maent yn gallu newid y ffordd rydym yn gweld y byd o’n cwmpas. Gallant wneud inni feddwl, ac ymddwyn, yn wahanol. Os ydych yn gwneud camgymeriad, gallant daflu busnes oddi ar y cledrau, neu roi diwedd ar syniad yn syth. Yn y cwrs hwn, byddwn yn dysgu gan y gorau ynghylch sut y gallwn lunio areithiau trawiadol ac osgoi problemau a chamgymeriadau cyffredin. Byddwn yn cwmpasu sut i ddweud stori yn effeithiol, trosiadau, hiwmor a strwythur. Mae’r cwrs hwn hefyd yn ymdrin â sut i gyflwyno ar-lein, o ystyried sut y mae Zoom yn newid dull sy’n ganrifoedd oed o fynd ati i lunio araith wedi’i pharatoi.

Beth fydd y cwrs hanner diwrnod yn ei gynnwys…

Areithiau sy’n cael effaith

  • Beth sy’n gwneud araith wych?
  • Sut y gallwn ni wneud araith yn fwy cofiadwy?

Cynnwys sylfaenol araith wych

  • Beth y dylem ei wneud cyn ysgrifennu?

Cadw diddordeb pawb ar Zoom

  • Llunio areithiau a chyflwyniadau ar gyfer cynulleidfa ar-lein

Cynhwysion hud ysgrifennu gwych

  • Awgrymiadau byr sy’n gallu gwella unrhyw destun

Osgoi camgymeriadau cyffredin

  • Beth yw’r problemau y dylai ysgrifenwyr a llefarwyr eu hosgoi?

Rhoi pob dim ar waith

  • Tasg ysgrifennu, adborth a sesiwn holi ac ateb
  • Yn ystod unrhyw argyfwng, mae’n hanfodol cyfathrebu’n glir a chydag argyhoeddiad. Fel y mae’r pandemig Covid-19 wedi ei ddangos i ni, gall sut rydym yn cyfathrebu â’n gilydd fod yn fater o fywyd a marwolaeth. Mae dulliau llywodraethau a sefydliadau sy’n newid yn dangos y gall technegau cyfathrebu gwahanol gael effaith uniongyrchol ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
  • Ni waeth pa mor rhagorol rydym yn trefnu, a pha mor drylwyr rydym yn paratoi, byddwn bob tro’n cael ein herio gan yr annisgwyl – digwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Dyna pryd y mae angen i’n sgiliau arwain a’n cynlluniau cyfathrebu mewn argyfwng ddisgleirio.
  • Dyluniwyd y cwrs hwn i herio eich barn ynghylch pa ffordd yw’r un orau o ymdrin ag argyfwng. Byddwn yn cwmpasu pwysigrwydd cynllunio a bod yn drefnus; arweinyddiaeth a gonestrwydd; a’r defnydd o iaith a sut i ymdrin â’r cyfryngau. Byddwn yn dysgu ar sail enghreifftiau gwirioneddol a bydd natur ryngweithiol y cwrs yn caniatáu i bobl gydweithio i ddatrys problemau.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG