Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Golygu sain gydag Audacity gyda Dan Mason

Rhowch dro ar olygu sain neu datblygwch eich sgiliau llunio podlediad i’r lefel nesaf

Beth yw cynnwys y gweithdy?

Gall sain o ansawdd da wneud i’ch recordiadau sefyll allan. Pa un a ydych yn llunio podleidiadau, neu sain ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol neu’r rhyngrwyd, mae sgiliau golygu sain yn ffordd wych o sicrhau bod eich cynnwys yn tynnu sylw.

Mae’r gweithdy hanner diwrnod hwn wedi’i anelu at y rheini nad oes ganddynt unrhyw brofiad, neu ychydig o brofiad yn unig, o ddefnyddio meddalwedd golygu sain, neu’r rhieni sydd wedi cwblhau cwrs podlediadau fel ‘Lansiwch eich Podlediad mewn Diwrnod’ yr NUJ.

Yn ystod bore o ddysgu ymarferol o’ch cartref, byddwch yn dysgu bob dim sydd angen i chi ei wybod i olygu eich podleidiad gan ddefnyddio Audacity, y golygydd sain am ddim gorau ar gyfer cyfrifiaduron MAC a PC. Bydd y gweithdy’n cwmpasu gwybodaeth hanfodol fel mewngludo, cwtogi ac allgludo sain yn y fformat gorau ar gyfer podlediadau, ond bydd yn mynd ymlaen i archwilio golygu amldrac, effeithiau a hidlyddion a fydd yn gwneud i’ch ffeiliau sain serennu.

Mae’r hyn a ddysgir yn berthnasol yn bennaf i bodleidiadau, ond mae hefyd  o werth ar gyfer unrhyw fath o olygu sain. Bydd pecyn cymorth PDF yn cael ei rannu ar y diwrnod, gyda dolenni i wersi tiwtorial ac adnoddau eraill.

I bwy y mae’r gweithdy?

Mae’r gweithdy’n addas i’r rheini sy’n dymuno dysgu’r sgiliau sylfaenol o olygu sain gyda phodlediad sy’n seiliedig ar lais mewn golwg, neu sydd eisoes wedi cwblhau gweithdy ‘Lansiwch eich Podlediad mewn Diwrnod’ Hyfforddiant NUJ Cymru. Er gwybodaeth, mae’n weithdy ar gyfer safon dechreuwr.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn dysgu ichi sut i:

  • Lywio a gweithredu’r rhaglen Audacity yn hyderus, gan gynnwys y llwybrau byr
  • Golygu a chwtogi ffeiliau sain a cherddoriaeth yn gyflym ac effeithlon
  • Recordio sain yn uniongyrchol ar Audacity, gan gynnwys argymhellion ar sut i ddefnyddio meicroffon a recordio
  • Defnyddio hidlyddion ac effeithiau sain i wella ansawdd y sain, gan gynnwys EQ, normaleiddio a lleihau sŵn
  • Canfod a golygu cerddoriaeth y gellir ei defnyddio’n gyfreithlon mewn podlediadau
  • Cymysgu cerddoriaeth a lleisiau i lunio cyflwyniadau a diweddgloeon sy’n swnio’n broffesiynol
  • Defnyddio darnau o sain i hyrwyddo eich podlediad ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Defnyddio’r gosodiadau allbwn sain a argymhellir ar gyfer podlediadau

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?

  • Gliniadur neu gyfrifiadur desg (PC neu Mac. Dim Chromebook) gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy
  • Cyfrif am ddim gyda Zoom (zoom.com), gydag ap Zoom am ddim wedi’i osod ar eich cyfrifiadur
  • Y feddalwedd Audacity wedi’i lawrlwytho a’i gosod o audacityteam.org
  • Mynediad at e-bost ar gyfer trosglwyddo ffeiliau (os oes angen)
  • Dewisol: Nid yw clustffonau, earbuds a meicroffon yn hanfodol ar gyfer y gweithdy hwn, ond mae croeso i’r cyfranogwyr eu defnyddio os ydynt ar gael.

Bydd dolen yn cael ei hanfon at y dysgwyr i fideo cyfarwyddiadau cyn y cwrs, sy’n egluro’r broses o lawrlwytho Audacity a sut i ddod yn gyfarwydd â’r rheolyddion sylfaenol.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG