Cyrsiau
MANYLION Y CWRS

Ffilmio a Golygu ar eich Ffôn Clyfar (gweithdy ar-lein) gyda Dan Mason

Beth yw pwnc y gweithdy?

Croeso i’r gweithdy fideos ffôn symudol sy’n cynorthwyo newyddiadurwyr a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol i ateb yr her o lunio cynnwys gartref.

Darperir y rhaglen undydd hon ar-lein, ond mae’n dal i geisio bod mor ymarferol a rhyngweithiol â phosibl. Bydd y cyfranogwyr yn dilyn cyfres o wersi tiwtorial cam wrth gam, o recordio cyfweliadau gan ddefnyddio arddull hun-lun i olygu storïau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ychwanegu is-deitlau i’ch cyfweliadau, llunio fideos hyrwyddo a ffilmio clipiau fideo ychwanegol i lunio storïau aml-haen.

Bydd y ffocws ar ffilmio a golygu fideos gartref, ond bydd y technegau hefyd yn berthnasol ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben. Addaswyd y gweithdy hwn yn benodol o’r gweithdy ‘Sut i Ffilmio a Golygu gyda’ch Ffôn Clyfar’, dan arweiniad y tiwtor Dan Mason.

Bydd pecyn cymorth PDF yn cael ei rannu gyda’r dolenni ar gyfer yr apiau a’r cyfarpar perthnasol.

I bwy y mae’r gweithdy?

Newyddiadurwyr a llunwyr cynnwys sy’n gweithio gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, y cyfryngau cymunedol, cysylltiadau cyhoeddus, elusennau ac undebau. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wneud fideos.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?

  • Recordio cyfweliadau o bell (neu wyneb yn wyneb), deall sut i fframio’r llun, y cefndir, sain a goleuo.
  • Golygu, allgludo a rhannu cyfweliadau.
  • Ychwanegu teitlau i’ch fideos.
  • Deall sut i ffilmio a golygu deunydd fideo ychwanegol i ddod â’ch fideo yn fyw.
  • Canfod ac ychwanegu cerddoriaeth i’ch prosiectau fideo.
  • Ychwanegu is-deitlau a thestun i’ch fideos.
  • Cyflwyniad i gyfuno fideos a theitlau i greu fideos sy’n egluro (os oes amser)

Pa gyfarpar sydd ei angen arnaf?

I gael mynediad i’r gweithdy: Gliniadur neu gyfrifiadur desg gyda chysylltiad wifi dibynadwy. Cyfrif am ddim gyda Zoom (zoom.com), gyda’r ap Zoom am ddim wedi’i lawrlwytho i’ch cyfrifiadur.

I ffilmio a golygu: Ffôn clyfar gyda batri llawn, gyda gwefrydd ac earbuds sy’n cynnwys meicroffon. Bydd angen ichi sicrhau bod ambell ap am ddim wedi’u huwchlwytho, a bydd angen stand drithroed resymol arnoch. Byddwn yn anfon y manylion a’r argymhellion atoch chi cyn y gweithdy. Dylai’r cyfranogwyr hefyd wirio a oes ganddynt y feddalwedd system gweithredu ddiweddaraf (I wirio, ewch i  Settings > General > Software Update) a bod yr apiau wedi’u diweddaru. Hefyd, bydd angen lle ar eich dyfais i recordio fideo (lleiafswm o 2GB).

Ynghylch yr hyfforddwr

Mae Dan Mason yn hyfforddwr aml-gyfrwng sy’n arbenigo yn y cyfryngau ar-lein a symudol. Bu Dan yn newyddiadurwr am dros 30 blynedd, ac roedd yn olygydd a enillodd wobrau cyn iddo sefydlu ei ymgynghoriaeth hyfforddi a chyfryngau yn 2010. Ers hynny, mae wedi gweithio mewn dros 30 o wledydd drwy’r Dwyrain Canol, Affrica ac Asia. Mae wedi’i leoli yn Baku, Azerbaijan, lle mae’n arwain rhaglen Feistr mewn newyddiaduraeth. Yn y DU, mae Dan yn hyfforddi’n helaeth gyda sefydliadau gan gynnwys Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, Urdd Awduron Prydain Fawr, Equity (undeb yr actorion) ac Undeb y Cerddorion, yn ogystal â’r CIPR (y Sefydliad Siartredig dros Gysylltiadau Cyhoeddus) a chleientiaid llywodraethol, corfforaethol a chysylltiadau cyhoeddus.

TIWTOR Y CWRS

DIGWYDDIADAU CYNLLUNIEDIG