**Cwrs Cymraeg**
Hyfforddwr – Richard Nosworthy
Mae pobl yn caru straeon am bobl eraill, felly mae creu astudiaeth achos da – trwy destun neu fideo – yn ffordd bwerus i gysylltu gyda’ch cynulleidfa. Yn y cwrs byr yma, byddwch yn darganfod beth sy’n gwneud astudiaeth achos effeithiol, gydag esiamplau o ymarfer da. Byddwn ni’n edrych ar sut i ddylunio, ysgrifennu a chyflwyno eich astudiaeth achos, a ffyrdd amrywiol o’i defnyddio fel rhan o’ch gwaith cyfathrebu ehangach.
Yr Hyfforddwr
Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd dwyieithog a hyfforddwr cyfryngau ydy Richard Nosworthy, gyda phwyslais ar weithio gydag elusennau, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw. Mae e’n gyn-newyddiadurwr a Gohebydd Iechyd yn Newyddion ITV Cymru Wales. Gweithiodd am 8 mlynedd yn WWF Cymru, lle rheolodd ymgyrchoedd a phrosiectau cyfathrebu eiriolaeth, ac am gyfnod roedd e’n Bennaeth Cyfathrebu.
Fformat
Mae hwn yn gwrs ar-lein, sy’n cael ei redeg ar y platfform Zoom. Sylwch nad yw ein cyrsiau wedi’u recordio. Gweler ein telerau ac amodau llawn yn www.nujtrainingwales.org am ragor o wybodaeth am ein gweithdrefnau archebu, polisi canslo a mwy.
