Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

Sgiliau Cyflym – Sut i greu astudiaeth achos gwych

Pryd?

Ionawr / 30 / Gwe  @  12:00 pm  -  Ionawr / 30 / Gwe  @  1:00 pm

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £5.00
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £20.00
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £10.00
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £15.00
Di-breswylwyr Cymru £25.00

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

**Cwrs Cymraeg**

Hyfforddwr – Richard Nosworthy

Mae pobl yn caru straeon am bobl eraill, felly mae creu astudiaeth achos da – trwy destun neu fideo – yn ffordd bwerus i gysylltu gyda’ch cynulleidfa. Yn y cwrs byr yma, byddwch yn darganfod beth sy’n gwneud astudiaeth achos effeithiol, gydag esiamplau o ymarfer da. Byddwn ni’n edrych ar sut i ddylunio, ysgrifennu a chyflwyno eich astudiaeth achos, a ffyrdd amrywiol o’i defnyddio fel rhan o’ch gwaith cyfathrebu ehangach.

Yr Hyfforddwr

Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd dwyieithog a hyfforddwr cyfryngau ydy Richard Nosworthy, gyda phwyslais ar weithio gydag elusennau, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw. Mae e’n gyn-newyddiadurwr a Gohebydd Iechyd yn Newyddion ITV Cymru Wales. Gweithiodd am 8 mlynedd yn WWF Cymru, lle rheolodd ymgyrchoedd a phrosiectau cyfathrebu eiriolaeth, ac am gyfnod roedd e’n Bennaeth Cyfathrebu.

Fformat

Mae hwn yn gwrs ar-lein, sy’n cael ei redeg ar y platfform Zoom. Sylwch nad yw ein cyrsiau wedi’u recordio. Gweler ein telerau ac amodau llawn yn www.nujtrainingwales.org am ragor o wybodaeth am ein gweithdrefnau archebu, polisi canslo a mwy.

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

November / 21 / Gwe

Cryfhau eich proffeil yn y cyfryngau trwy wella perthnasau gyda newyddiadur

Ar-lein

Ionawr / 30 / Gwe

Sgiliau Cyflym – Sut i greu astudiaeth achos gwych

Ar-lein

Rhagor o gyrsiau >

Trydar

NUJ Training Cymru Wales