Cyrsiau
Book Now
MANYLION Y CWRS

GOHIRIO – DIGIFEST – EIN GŴYL STORÏAU DIGIDOL AR-LEIN NEWYDD

Pryd?

Ble?

Ar-lein

Pris?

Aelodau NUJ sy'n preswylio yng Nghymru £gweler isod
Aelod NUJ - Ddim yn preswylio yng Nghymru £gweler isod
Aelodau undebau eraill sy'n preswylio yng Nghymru £gweler isod
Dim aelod o undeb sy'n byw yng Nghymru £gweler isod
Di-breswylwyr Cymru £gweler isod

Cyswllt?

NUJ Cymru Training Wales,
Email : [email protected]

 

Ymunwch â ni ar gyfer gŵyl ar-lein dros bythefnos o storïau digidol, gyda dewis eang o sesiynau 2 awr hanfodol pob diwrnod, sy’n cael eu darparu gan ein harbenigwyr cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu. Dewch i un neu ddwy o sesiynau, neu prynwch fand garddwn a dewch i gynifer ag yr hoffech!

Tocynnau:

Amryw o Sesiynau / Pob Sesiwn (Unigolion sy’n preswylio yng Nghymru yn unig) £35.00

Tocynnau unigol (Unigolion sy’n preswylio yng Nghymru yn unig) £10.00 yr un

Porwch drwy Raglen yr Ŵyl isod…

Offer digidol ar gyfer dyfeiswyr gyda Dan Mason

Porwch drwy’r pecyn cymorth o offer ar-lein cyflym ac am ddim ar gyfer sain, fideo, cynhyrchiant a mwy

Darganfod eich cynulleidfa (SAESNEG) gydag Emma Meese

Ydych chi eisiau cyfleu eich neges ond dydych chi ddim yn siŵr pa lwyfan i’w ddewis? Bydd canllaw hanfodol Emma i’r cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu i ddod o hyd i’r gynulleidfa gywir a’r llwyfan gorau.

Ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd drwy bodlediadau (CYM) gyda Richard Nosworthy

Darganfyddwch fanteision, cyfleoedd a pheryglon defnyddio podledu ar gyfer eich cyfathrebiadau.

Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol 101 gyda Dan Mason

Defnyddiwch y templed deg cam hwn i lunio ymgyrch fachog ar y cyfryngau cymdeithasol.

Addasiadau ac offer hawdd ar gyfer optimeiddio chwilotwyr gyda Dan Mason

Camau syml i wneud eich storïau, gwefannau, darluniau a fideos yn fwy gweladwy

Darganfod eich cynulleidfa ar y cyfryngau cymdeithasol (CYM) gydag Emma Meese

Ydych chi eisiau lledaenu’ch neges ond dydych chi ddim yn siŵr pa lwyfan i’w ddewis? Bydd canllaw hanfodol Emma i’r cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu i ddod o hyd i’r gynulleidfa gywir a’r llwyfan gorau

Cyfleu eich neges allweddol mewn 60 eiliad gyda Matt Greenough

Bydd Matt, sy’n arbenigwr cyfathrebu, yn arddangos pwysigrwydd paratoi wrth ddarparu negeseuon allweddol mewn amser byr iawn

Ymgysylltu â’ch cynulleidfa drwy bodlediadau (Saesneg) gyda Richard Nosworthy

Darganfyddwch fanteision, cyfleoedd a phroblemau posibl defnyddio podledu ar gyfer eich cyfathrebiadau.

Symleiddio fideos egluro ar ffonau symudol gyda Dan Mason

Defnyddiwch ap ffonau symudol ac ychydig o wybodaeth ymarferol i lunio storïau effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol

Hud delweddau digidol gyda Dan Mason

Dysgwch sut i ganfod, golygu, gwella a thorri lluniau, a’u hoptimeiddio ar gyfer y we, gyda’r offer a’r technegau hyn sydd am ddim.

***Gellir archebu pob sesiwn ar wahân, ond gallwch ddod i’r holl ŵyl gyda band garddwn tocyn sengl a chael mynediad i becyn cymorth yr ŵyl, sy’n llawn argymhellion a dulliau amgen gan ein tiwtoriaid arbenigol.***

Os ydych yn aelod o’r NUJ ac rydych wedi colli eich swydd yn ystod y chwe mis diwethaf, neu os ydych yn wynebu colli eich swydd, mae gennych hawl i gael dau ddiwrnod o hyfforddiant am ddim. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Mae DigiFest wedi’i ariannu gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru. Mae gennym nifer gyfyngedig o docynnau (taledig) ar gael i’r rheini sy’n byw y tu allan i Gymru. Mae gennym nifer o docynnau ar gael hefyd i’r rheini sydd ar incwm isel. Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer un o’r cyfleoedd hyn ac yr hoffech wneud ymholiadau ynghylch mynychu rhai o sesiynau DigiFest, neu bob sesiwn, anfonwch e-bost at [email protected].

Book Now

TIWTOR Y CWRS

Archebwch nawr

Digwyddiadau Cynlluniedig

Trydar

NUJ Training Cymru Wales