Amdanom ni
Gweld y Cyrsiau

Ynghylch Hyfforddiant NUJ Cymru

Bu’r rhaglen hyfforddiant hon yn cael ei chynnal yng Nghymru ers 2009. Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2018, cymerwyd tua 600 o leoedd ar ein cyrsiau neu ddigwyddiadau hyfforddiant. Mae rhai o’r lleoedd hynny’n cynrychioli unigolion a aeth ar nifer o gyrsiau yn ystod cyfnod pwysig yn eu gyrfaoedd.

Bellach, mae rhagor o gyllid wedi’i sicrhau gan Gronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru ac mae’r tîm yn parhau i adeiladu ar seiliau cryf y prosiect, gan ddarparu sgiliau a chyrsiau diweddaru hanfodol i newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes cyfathrebu o Gymru a thu hwnt.

Staff Prosiect a Phroffiliau'r Tiwtoriaid

Dr Rae Howells

Rachel Howells yw Rheolwr Prosiect Hyfforddiant NUJ Cymru. Mae’n newyddiadurwr profiadol, a dreuliodd ugain mlynedd yn gweithio ar gylchgronau a phapurau newydd, ac yn y sector lleol iawn, ar amrywiaeth o lefelau o ysgrifennwr staff i olygydd.
Graddiodd Rachel gyda PhD mewn astudiaethau newyddiadurol o Brifysgol Caerdydd yn 2016. Roedd ei thraethawd ymchwil yn canolbwyntio ar y diffyg democrataidd mewn trefi sy’n colli eu papur newydd lleol (Port Talbot oedd ei hastudiaeth achos). Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, hi oedd y cyfarwyddwr a’r golygydd a sefydlodd wasanaeth newyddion y Port Talbot Magnet.
Hi oedd cyd-awdur Hyperlocal Journalism (Routledge, 2018), ac mae’n aelod o Gyngor Gweithredol Cymru yr NUJ a bwrdd cynghori’r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol. Mae hefyd yn gweithio ar ymchwil yn y cyfryngau ar gyfer yr actor a’r gweithredydd, Michael Sheen ac, yn ei hamser hamdden, mae’n ysgrifennu barddoniaeth ac yn tyfu lafant.

Zena Chandler-Burnell

Mae Zena wedi ymgymryd â rôl y Cydgysylltydd Prosiect ar brosiect Hyfforddiant NUJ Cymru, ac mae’n cynnig cefnogaeth i’r Rheolwr Prosiect o ran cynllunio a threfnu digwyddiadau.
Mae Zena wedi gweithio yn y gorffennol ar brosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru BECTU / CULT Cymru fel gweinyddwr ac roedd yn awyddus i weithio ar brosiect y Gronfa unwaith eto oherwydd roedd yn gweld buddion enfawr hyfforddiant yr Undeb i unigolion.
Gyda chefndir yn y celfyddydau, ar ôl graddio o’r Coleg Dylunio Theatr, aeth Zena ymlaen i fod yn artist golygfeydd am 13 blynedd i Cardiff Theatrical Services, sy’n is-gwmni i Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae Zena yn unigolyn sy’n cael pleser mawr o gynorthwyo a chefnogi eraill, ac mae’n gynrychiolydd ac yn ysgrifennydd cangen i’r Undeb sy’n cynnig cymorth i’w chydweithwyr.

Dan Mason

Mae Dan Mason yn newyddiadurwr, yn ymgynghorydd hyfforddi ar y cyfryngau ac yn hyfforddwr, sy’n arbenigo mewn cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol (Dan Mason Media).
Cyn dechrau ei gwmni hyfforddi, gweithiodd Dan yn eang yn y wasg ranbarthol yn y DU ac roedd yn olygydd ar bapurau newydd a enillodd wobrwyon, gan gynnwys y Coventry Evening Telegraph a’r Birmingham Post. Roedd hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr i Coventry Newspapers ac ef oedd rheolwr olygydd Newsquest yn Llundain.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae wedi hyfforddi rheolwyr, newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes cyfathrebu ar draws y gwledydd datblygol yn ogystal ag yn y DU.

Simon Williams

Mae Simon Williams yn rhedeg ein cyrsiau Ysgrifennu ar gyfer y We, Adeiladu eich Gwefan eich Hunan a Chyfathrebu Strategol.
Mae Simon yn dysgu cyfathrebu digidol ac ymgyrchu yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, ac mae’n newyddiadurwr llawrydd sy’n arbenigol yn yr amgylchedd a gweithgareddau awyr agored.
Gyda bron i 20 mlynedd o brofiad o olygu, dylunio a datblygu ar-lein ac 8 mlynedd fel rheolwr cyfathrebu Friends of the Earth Cymru, bellach mae Simon yn gwneud gwaith ymgynghori a hyfforddiant cyfathrebu strategol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.communicatingcauses.co.uk

Emma Meese

Mae Emma yn rhedeg gweithdai ar y defnydd effeithiol o’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Hyfforddiant NUJ Cymru. Hi yw pennaeth Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd ac mae’n arwain sesiynau Sioe Deithiol Cyfryngau Cymdeithasol Cymru yr ydym yn eu cynnal mewn partneriaeth â’r Ganolfan. Mae’n newyddiadurwr gydag ysgogiadau cryf, gyda 15 mlynedd o brofiad, a dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr print. Yn dilyn cyfnod ar y radio, treuliodd bron i ddegawd yn gwneud rhaglenni teledu ar gyfer y BBC. Mae’n ‘geek’ anhraddodiadol sy’n caru ffasiwn a thechnoleg.

David Banks

Mae David Banks yn newyddiadurwr gyda 24 mlynedd o brofiad ac mae’n cynnal cwrs Hyfforddiant NUJ Cymru ar Gyfraith a Moeseg y Cyfryngau. Mae’n ymgynghorydd y cyfryngau sy’n darparu hyfforddiant i amrywiaeth o gyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol, Cyrff Anllywodraethol, y llywodraeth, elusennau, cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus, prifysgolion a’r heddlu. Mae’n hyfforddwr sydd wedi creu a rheoli cyrsiau llwyddiannus mewn newyddiaduraeth, cyfraith y cyfryngau a newyddiaduraeth cynhyrchu.
Ef yw cyd-awdur argraffiadau 18, 19 a 20 o McNae’s Essential Law for Journalists. Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd ar y gyfraith a’r cyfryngau ar gyfer The Guardian, The Mirror a The Independent. Mae’n cyfrannu’n aml ar raglenni newyddion y BBC ar y teledu a’r radio.

David Thomas

Mae David yn ddarlledwr, hyfforddwr a rheolwr profiadol iawn, gyda diddordeb arbennig mewn sgiliau cyfathrebu a threfnu. Mae’n rhedeg y gweithdai ‘Cydgysylltu: Rhwydweithio Digidol ac Wyneb yn Wyneb’ a ‘Sut i fod yn Weithiwr Llawrydd’ ar gyfer Hyfforddiant NUJ Cymru
Mae ei gleientiaid sgiliau busnes yn cynnwys y BBC, ITV, a’r undebau adloniant a theatr a ganlyn: BECTU, Equity a’r Stage Management Association.
Mae’n arbenigo mewn hyfforddiant yn y cyfryngau ar gyfer elusennau. Bu’n rhan o waith cynhyrchu ar y radio ac ar-lein am 30 mlynedd, yn bennaf gyda’r World Service y BBC a radio lleol. Mae ei arbenigedd wedi mynd ag ef o amgylch y byd i gyd, lle bu’n gweithio gyda darlledwyr o Ddwyrain Ewrop, y Dwyrain Pell, Affrica a’r Caribî.

Pamela Henerberry

Mae Pamela yn darparu ein Rhaglen Hyfforddiant Mentora. Bu’n gweithio yn y maes addysg a hyfforddiant am y 30 mlynedd diwethaf ac mae’n gweithio ar hyn o bryd fel ymgynghorydd i’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn ei Adran Ymchwil a Pholisi. Pamela yw cyd-sefydlwr y Ganolfan Datblygu Proffesiynol, a sefydlwyd yn 2009 i ddarparu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth ar sail genedlaethol.
Mae’r Ganolfan Datblygu Proffesiynol yn datblygu a darparu amrywiaeth o raglenni dysgu ar arweinyddiaeth, rheoli, hyfforddi a gweithredu ar gyfer busnesau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys TUC Cymru, Prifysgol Caerdydd, Babcock ccc, Cymdeithas Adeiladu The Principality, Arriva UK a Chyngor Powys.

SA Mathieson

Mae SA Mathieson wedi gweithio fel newyddiadurwr llawrydd amser llawn am ymhell dros ddegawd. Mae wedi comisiynu gweithwyr llawrydd fel golygydd, gan gynnwys ar gyfer adran o wefan The Guardian, ac wedi rhedeg cyrsiau hyfforddi ar gyfer yr NUJ, Ffederasiwn yr Undebau Diddanu a chleientiaid corfforaethol; ac mae’n darlithio ynghylch newyddiaduraeth ddata yn Birkbeck, Prifysgol Llundain. Mae’n byw yng ngogledd-orllewin Swydd Rhydychen, dim ond 80 milltir o ffin Cymru.

Judi Goodwin

Rwy’n hyfforddwr ac yn hyfforddwr ysgrifennu sy’n byw ym Manceinion ac rwyf wedi treulio 30 mlynedd fel newyddiadurwr llawrydd, yn cyfrannu at The Daily Telegraph, y Radio Times, y Liverpool Post a Woman’s Hour y BBC. Am bum mlynedd, roeddwn yn olygydd comisiynu i gylchgrawn Ideal Home. Rwyf wedi cynnal hwn, fy hoff weithdy, ar gyfer CIPR, y Bank of England, The Big Issue a Lloyds Bank, yn ogystal ag ar gyfer carcharorion sydd yn y carchar am oes, pobl sydd â heriau iechyd meddwl, a phobl sydd ag AIDS a HIV.

Rwy’n hoffi defnyddio’r dull person cyfan yn fy hyfforddiant ac rwy’n credu bod pobl yn dysgu orau pan fyddant yn cael hwyl. Fy aseiniad mwyaf heriol oedd dysgu sgiliau cyfweld i newyddiadurwyr Rwmanaidd yn Bucharest. Nid oeddent hwy yn siarad unrhyw Saesneg; nid wyf fi’n siarad unrhyw Rwmaneg.

Jo Healey

Jo Healey yw awdur ‘Trauma Reporting, A Journalist’s Guide to Covering Sensitive Stories’. Mae’n uwch-newyddiadurwr yn adran newyddion y BBC sydd wedi datblygu a chyflwyno hyfforddiant Gohebu ynghylch Trawma ar gyfer y BBC. Mae wedi hyfforddi cannoedd o newyddiadurwyr a staff y cyfryngau o bob cwr o’r byd. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol Trauma Work.

Ahmed Elsheikh

Mae Ahmed yn Ymgynghorwr yn y Cyfryngau Digidol gyda Mediamise Consultancies (www.mediamise.co.uk) ac ef yw Is-gadeirydd Cyngor Aelodau Du yr NUJ. Mae’n gyn uwch-newyddiadurwr darlledu gyda’r BBC, ac mae’n darparu cyrsiau hyfforddi ar gyfer BBC Media Action, y Thompson Foundation a sefydliadau rhyngwladol eraill. Mae ganddo Radd Meistr yn y Cyfryngau Cymdeithasol gan Brifysgol San Steffan yn Llundain.

Hannah Abbott

yn ysgrifennydd copi llawrydd yn 2013 – ac mae hi wedi ffynnu ers hynny.

Mae hi bellach yn rhedeg busnes ysgrifennu copi llwyddiannus o’i chartref yn y Barri, De Cymru. Mae ei harddull ysgrifennu di-flewyn-ar-dafod yn helpu brandiau mawr a busnesau bach i sicrhau canlyniadau. Mae hi hefyd yn helpu ysgrifenwyr copi uchelgeisiol i ddechrau ysgrifennu gyda’i chwrs ar-lein ‘How To Become A Successful Freelance Copywriter’.

I ganfod mwy: hannahabbottcopywriting.co.uk

Aidan O’Donnell

Mae Aidan yn dysgu newyddiaduraeth ddata yn Jomec i fyfyrwyr israddedig, MA ac MSc ac mae’n gyd-gyfarwyddwr y cwrs ar gyfer yr MSc mewn Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data.

Mae wedi gweithio fel newyddiadurwr mewn newyddiaduraeth ddarlledu ac ar-lein ac wedi gohebu am Affrica a Ffrainc i sefydliadau mawr y cyfryngau ac ar brosiectau llawrydd. Bu’n dysgu rhifedd mewn newyddiaduraeth am sawl blwyddyn ar lefel israddedig ac ôl-raddedig a’i waith yn gyffredinol yw gwneud dadansoddi data yn offeryn safonol i newyddiadurwyr. Dysgodd ym Mhrifysgol Middlesex ac Université Paris 8 ac mae wedi cynnal gweithdai newyddiaduraeth yn yr LUISS (Rhufain) a’r IPJ (Paris).